Diwrnod Saith: Mwy o fedalau ar y gorwel?

Dai Greene Image copyright Getty Images
Image caption Dai Greene yn cystadlu heddiw

Mae Tîm Cymru eisoes wedi cyrraedd eu targed o gasglu 27 medal yn Glasgow.

Felly, ar y seithfed diwrnod, a fydd Cymru yn mynd ymlaen a chyrraedd 31 o fedalau, sef y cyfanswm a enillwyd yn y gemau ym Manceinion yn 2002?

Bydd Dai Greene yn dechrau amddiffyn ei deitl clwydi 400m yn y rownd gynderfynol ac er yr anafiadau mae ganddo'r profiad i roi hynny o'r neilltu.

Efydd o leiaf

Mae dwy fedal arall yn sicr, gyda'r bocswyr Joe Cordina a Nathan Thorley yn siŵr o ddod adref gydag o leiaf medal efydd ar ôl cyrraedd y rowndiau cynderfynol.

Mae pencampwr arall, Sean McGoldrick o Gasnewydd yn parhau gyda'i gais i ennill ei ail fedal aur yn bocsio pwysau Bantam. Bydd yn cystadlu yn y cymal chwarter-derfynol.

Byddai buddugoliaeth iddo dros Dayabonga Sonjica o De Affrica yn sicrhau medal efydd iddo, fel y byddai buddugoliaeth mewn categori arall i Ashley Williams, sy'n wynebu Mohd Fuad Redzuan o Malaysia.

Yn ogystal fe allai'r bocswyr Charlene Jones a Lauren Price sicrhau medalau efydd os ydyn nhw'n ennill eu cymalau hwythau.

Yn yr athletau, bydd Brett Morse yn cystadlu ynn nghystadleuaeth y ddisgen yn ystod sesiwn y bore ym Mharc Hampden tra bydd Joe Thomas yn rhedeg yn rownd gynderfynol y 800m heno.

Gêm hollbwysig

Yn y bowls bydd Robert Weale yn wynebu gêm hollbwysig yn ei ymgais i amddiffyn ei bencampwriaeth.

Mae'n rhaid i Weale ennill yn erbyn Dalton Tagelagi o Niue i aros yn y gystadleuaeth ac yn ddiweddarach bydd yn wynebu Aron Sherriff o Awstralia.

Yn yr hoci, mae Cymru yn chwarae yn erbyn Malaysia a bydd Damion Arzu yn dechrau cystadlu yn y wreslo yng nghanolfan SECC Glasgow.