Cwmni yswiriant: 60 o swyddi'n mynd?

Legal & General

Mae 'na 60 o swyddi yn y fantol yn swyddfa Legal & General yng Nghaerdydd.

Mae'r rhai allai golli eu swyddi yn gweithio yn yr adran flwydd-daliadau, ac mae'r penderfyniad yn dilyn cyhoeddiad y Canghellor George Osborne yn ystod y Gyllideb am ad-drefnu pensiynau.

Fe ddywedodd y cwmni bod ymgynghoriad ffurfiol ar droed, ond eu bod yn gobeithio symud staff i leoliad arall yng Nghaerdydd, neu i swyddfeydd eraill y cwmni.

Yn ogystal, fe ddyweodd Legal & General eu bod yn cydweithio â'r undebau.

Fe fydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben fis Medi.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.