Dai Greene: 'Doedd hi ddim i fod'

Dai Greene Image copyright Getty Images

Mae Dai Greene yn dweud ei fod o'n siomedig, wedi iddo fethu a mynd ymhellach na rownd ragbrofol y ras 400m dros y clwydi yng Ngemau'r Gymanwlad.

Bedair blynedd yn ôl yn Delhi, fe enillodd Dai y fedal aur yn y gamp.

Dydi o heb rasio o gwbl bron eleni oherwydd anafiadau, ac roedd hynny'n dangos wrth i'r athletwr 28 oed arafu tua diwedd y ras, gan orffen yn y pumed safle gydag amser o 50.36 eiliad.

47.84 yw amser gorau'r Cymro.

Ond er y siom, roedd o'n falch o gael cynrychioli ei wlad.

Mewn neges ar Twitter yn dilyn y ras, fe ddywedodd: ""Roedd heddiw wastad yn mynd i fod yn anodd i mi ac yn anffodus doedd hi ddim i fod. Falch o fod yn Gymro."