Gwefannau cymdeithasol: Diswyddo a rhybuddion

Facebook Image copyright Getty Images
Image caption Mae nifer o awdurdodau lleol yn cyfyngu ar fynediad staff i wefannau cymdeithasol yn y gweithle.

Cafodd un gweithiwr ei ddiswyddo a rhoddwyd rhybuddion i eraill wedi 13 achos o gamddefnyddio gwefannau cymdeithasol gan weithwyr awdurdodau lleol Cymru yn 2013.

Ymhlith yr achosion roedd "niweidio enw da ysgol", sylwadau amhriodol am y gwaith a chydweithwyr, a chyhoeddi lluniau a fideo tra yn y gweithle.

Diswyddwyd gweithiwr yn Wrecsam, tra bod cynghorau Powys ac Abertawe wedi cofnodi tri achos yr un. Ni chofnodwyd unrhyw achosion gan 12 cyngor.

Daeth yr wybodaeth wedi cais BBC Cymru Fyw o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

'Deunydd amhriodol'

Cafodd gweithiwr ei ddiswyddo yng Nghyngor Sirol Wrecsam am bostio "deunydd amhriodol" ar Facebook o'r gweithle.

Roedd tri achos yng nghyngor Powys, a arweiniodd at weithdrefnau disgyblu. Roedd un achos o osod fideo ar Facebook tra yn y gweithle, un achos o ddiweddaru lluniau ar Facebook o'r gweithle, ac un achos o wneud sylwadau amhriodol ar Facebook y tu allan i'r gwaith.

Yng Nghyngor Abertawe, cafwyd tri achos, sef sylwadau amhriodol ar Twitter, defnydd amhriodol o Facebook, a chamddefnyddio Google. Cymerwyd "camau priodol o dan y polisi disgyblu".

Cafodd un gweithiwr rybudd ysgrifenedig yng Nghyngor Dinas Casnewydd am roi sylwadau ar Facebook "a niweidiodd enw da'r ysgol a oedd yn ei gyflogi".

Yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot, cafwyd un achos yn ymwneud â datganiadau amhriodol ar Facebook a Twitter. Rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig terfynol.

Roedd un achos yng Nghyngor sir Caerffili lle ysgrifennodd aelod o staff "sylwadau gwael" am aelod arall o staff ar gyfryngau cymdeithasol, a derbyn rhybudd ysgrifenedig.

Derbyniodd unigolyn yng Nghyngor Gwynedd rybudd llafar wedi "sylwadau amhriodol ynglŷn â'r gwaith" ar wefan Twitter.

Yng Nghyngor Blaenau Gwent, rhoddwyd cerydd i un swyddog am gamddefnyddio gwefannau cymdeithasol.

Cymerwyd "camau disgyblu priodol" gan gyngor Ceredigion ar ôl i weithiwr wneud "sylwadau amhriodol" ar Facebook.

Ni chofnodwyd unrhyw achosion yn 2013 yng nghynghorau Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Ynys Môn,Merthyr Tudful, Sir Fynwy,Penfro, Rhondda Cynon Taf, Torfaen aBro Morgannwg.

Dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr nad oedd modd darparu'r wybodaeth oherwydd y byddai'n "gyfystyr â datgelu data personol".

Mae gan bob cyngor bolisi cyfryngau cymdeithasol sy'n berthnasol i'w holl gyflogeion wrth iddynt ddefnyddio unrhyw fath o gyfryngau cymdeithasol a phan allai hynny gael ei gysylltu â'u cyflogaeth.

'Problem gynyddol'

Dywedodd Emma Meese, rheolwr y ganolfan newyddiaduraeth gymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd, "Mae cytundebau gwaith yn nodi bod angen i gyflogeion ymddwyn mewn ffordd briodol a pheidio â rhoi enw drwg i'r cyngor.

"Mae'n hawdd i bobl anghofio wrth sgwrsio â ffrindiau ar y we eu bod yn gwneud hyn yn gyhoeddus.

"Dwi'n credu y bydd hyn yn broblem gynyddol, am ddegawd arall efallai, cyn i genhedlaeth godi a fydd yn fwy ymwybodol o'r peryglon ac yn fwy gofalus".

Straeon perthnasol