Principality yn gwerthu Peter Alan

Peter Alan
Image caption Bydd holl staff Peter Alan yn trosglwyddo i'r Grŵp Connells

Mae cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, y Principality, yn gwerthu ei busnes gwerthu tai, Peter Alan, am bron i £16.5 miliwn.

Mae gan y perchnogion newydd, Grŵp Connells, bron i 500 o ganghennau ar draws y DU ac mae hefyd yn berchen ar y gadwyn Allen and Harris.

Daeth y newyddion wrth i'r Principality gyhoeddi'r elw cyn-treth uchaf yn ei hanes, £30.6 miliwn ar gyfer chwe mis cyntaf y flwyddyn.

Nid yw'r arian o werthu Peter Alan wedi'i gynnwys yn y ffigyrau gan ei fod wedi digwydd ym mis Gorffennaf.

Bydd holl staff Peter Alan yn trosglwyddo i'r Grŵp Connells.

230 o staff

Fe wnaeth y Principality brynu Peter Alan yn 1987. Gyda 230 o staff a rhwydwaith o 26 o ganghennau ar draws Cymru, Peter Alan yw'r asiantaeth dai sydd â'r nifer fwyaf o ganghennau yng Nghymru.

Yn 2013, cafodd Peter Alan ei ail flwyddyn fwyaf llwyddiannus gydag elw o £1 miliwn a chyfran o'r farchnad o 20%.

Dywedodd Prif Weithredwr y Principality, Graeme Yortson: "Wrth i ni barhau i ganolbwyntio ar ein strategaeth ar gyfer y gymdeithas adeiladu er budd ein haelodau yn awr ac yn y dyfodol, aethom at brynwyr posibl a phartïon â diddordeb.

"Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cytuno ar werthiant busnes Peter Alan i'r Grŵp Connells, un o'r busnesau gwerthu tai mwyaf yn y DU".

Straeon perthnasol