Morgannwg yn colli i Swydd Nottingham yn y Cwpan Undydd

Michael Hogan Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Michael Hogan gymryd wicedi Alex Hales, James Taylor a Samit Patel i adael Notts mewn trafferthion ar 11-3.

Mae Morgannwg wedi colli o dair wiced i Swydd Nottingham yn y Cwpan Undydd yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Partneriaeth ddi-dor o 93 rhwng Steven Mullaney a Ajmal Shahzad am yr wythfed wiced oedd yn allweddol.

Gyda nod o 228 i ennill, fe wnaeth Michael Hogan gymryd wicedi Alex Hales, James Taylor a Samit Patel i adael Notts mewn trafferthion ar 11-3.

Er gwaethaf 65 rhediad gan Riki Wessels, roedden nhw yn dal yn edrych allan ohono ar 137-7 cyn i Mullaney (63 heb fod allan) a Shahzad (33 hfa) arwain Notts i fuddugoliaeth o dair wiced.

Roedd y batiwr agoriadol Jacques Rudolph yn gynharach wedi taro 101 yng nghyfanswm Morgannwg, 227-8.

Roedd Morgannwg wedi curo Surrey a Middlesex yn y gystadleuaeth.

Morgannwg 227 am 8 (50.0 pelawd), Swydd Nottingham 230 am 7 (48.3 pelawd).

Straeon perthnasol