Ystyried gwerthu tir ar yr Wyddfa

Llyn Du'r Arddu Image copyright Christine Matthews
Image caption Gallai'r gwerthiant - os yw'n mynd yn ei flaen - godi tua £7.5m

Gallai rhai o'r golygfeydd mwyaf adnabyddus ar fynydd uchaf Cymru fod ar werth cyn hir.

Dywedodd y ffermwr Dafydd Morris y gallai hyd at 250 hectar (600 erw) o'r Wyddfa gael eu gwerthu, gan gynnwys un o'r clogwyni mwyaf enwog.

Dywedodd ei fod wedi cael llond bol o feirniaid yn ymosod ar sut y mae'r ardal yn cael ei ffermio, a'i fod am "roi'r cyfle iddyn nhw" i reoli'r tir eu hunain.

Gallai'r gwerthiant - os yw'n mynd yn ei flaen - godi tua £7.5m.

Mae'r tir yn cynnwys ardal 45 hectar (112 erw) o'r enw Cwm Arddu, sy'n cynnwys clogwyn sy'n ffefryn gyda dringwyr, Clogwyn Du'r Arddu.

Image copyright Terry Hughes
Image caption Mae Clogwyn Du'r Arddu wedi denu dringwyr ers degawdau

Dywedodd Mr Morris y byddai'r gweddill yn cael ei werthu "erw wrth erw".

Meddai: "Nid wyf yn gwybod os byddaf yn gwerthu, ond os wyf yn gwneud byddaf yn ysgrifennu llyfr am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yma.

"Y rheswm yw nad yw llawer o bobl yn hapus gyda'r ffordd y mae'r ffermwyr yn ffermio'r bryniau. Maent yn cwyno am y bywyd gwyllt a'r llystyfiant a phopeth.

"Does dim ots gen i os nad oes neb ei eisiau, ond 'dw i'n mynd i roi cyfle iddyn nhw a gobeithio y byddant yn deall sut beth ydyw."