Glasgow: Pledio'n euog i ymosod

Francois Etoundi a Gareth Evans Image copyright Getty Images
Image caption Cyfaddefodd Francois Etoundi (chwith) iddo daro Gareth Evans gyda'i ben.

Mae aelod o dîm athletau Awstralia wedi pledio'n euog i ymosod ar aelod o Dîm Cymru.

Wrth ymddangos gerbron llys yn Glasgow brynhawn Iau, cyfaddefodd Francois Etoundi, 29, iddo ymosod ar y codwr pwysau Gareth Evans, 28 oed, tua 5.30 fore Mercher ym mhentref yr athletwyr.

Cafodd trwyn Mr Evans ei dorri wedi i Etoundi ei daro gyda'i ben.

Gorchmynwyd Francois Etoundi i dalu £400 o iawndal i Mr Evans. Mae tîm Awstralia wedi ei diarddel, ac mae Etoundi wedi colli'r hawl i aros ym mhentref yr athletwyr yn ogystal â chymryd rhan yn seremoni cau'r gemau.

Roedd Etoundi wedi bod allan yn dathlu ennill y fedal efydd yng nghategori codi pwysau 77kg dydd Sul ac yn cael ei longyfarch gan athletwyr eraill pan wnaeth menyw - cariad Mr Evans, clywodd y llys - ei gofleidio.

Clywodd y llys bod Mr Evans yn anhapus a bod y ddau wedi cyfnewid geiriau. Ychydig yn ddiweddarach fe wnaeth Etoundi daro Mr Evans â'i ben a cherdded i ffwrdd.

Mae pentre'r athletwyr ger Maes Emirates a Celtic Park, lle cafodd y seremoni agoriadol ei chynnal.

Straeon perthnasol