Bŵm Sonig: wyth digwyddiad dros Gymru mewn pum mlynedd

FE:15 Image copyright AP
Image caption Awyren FE-15 Llu Awyr yr Unol Daleithau yn debyg i'r un wnaeth achosi difrod yn Aberystwyth yn gynharach eleni.

Mae ffigyrau a gofnodwyd dros y pum mlynedd diwethaf am daranau neu fŵm sonig wedi ei hachosi gan awyrennau'r Lluoedd Arfog, yn dangos bod bron i hanner ohonynt wedi digwydd dros Gymru.

Rhwng Mai 2009 a Mehefin 2014, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) wedi cofnodi 17 o ddigwyddiadau, gydag wyth ohonynt dros Geredigion, Powys neu Ynys Môn.

Yn y cyfnod yma mae'r MoD wedi talu £1844 i bobl yn dilyn 15 cais am iawndal.

Mae'r taranau sonig yma wedi torri ffenestri, difrodi tŷ gwydr a chafodd archfarchnad ei gau yn Aberystwyth ym mis Mawrth ar ôl i deils o'r nenfwd syrthio yno.

Hedfan yn gynt na sain

Effaith sy'n cael ei greu gan awyrennau yn torri triwyr gwahanfur sain (sound barrier) yw'r taranau sonig sy'n digwydd pan mae awyren yn hedfan ar gyflymder o 761 milltir yr awr.

Dywedodd Dr Chris North o Brifysgol Caerdydd bod y taranau sonig yma yn fwy brawychus na pheryglus. Ond maent yn gallu achosi difrod pan fydd y pan fydd y tonnau sain yn cyrraedd y ddaear.

Mi ddaeth y Concorde i ben yn 2003. Ond mae na dal awyrennau jet a thaflegrau cyflym milwrol sy'n gallu hedfan ar gyflymder uchel.

Gwahardd

Yn achos y difrod yn Aberystwyth mae Llu Awyr yr Unol Daleithiau (USAF) wedi cyfaddef bod awyren FE-15 wedi bod yn hyfforddi ger yr arfordir pan dorrodd y gwahanfur sain yn anfwriadol. Mae nhw wedi ymddiheuro am y difrod.

Dywedodd yr Llu Awyr bod hedfan uwchsonig wedi ei wahardd dros y tir yn y DU.

Esboniodd eu llefarydd bod rhan fwyaf o'r digwyddiadau dros y môr, gyda'r sain yn cyrraedd tir, neu wedi eu hachosi gan awyrennau yn ymateb i adroddiadau o awyrennau anhysbys yn hedfan yng ngofod awyr y DU.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.