Medal efydd i Geraint Thomas

Geraint Thomas

Mae gan Gymru fedal arall yn Gemau'r Gymanwlad diolch i ymdrech wych gan Geraint Thomas yn y ras feicio yn erbyn y cloc.

Fe fyddai rhywun wedi maddau i'r Cymro pe bai wedi methu ar ôl tair wythnos galed ar y Tour de France gyda dim ond tridiau o orffwys cyn anelu am y gemau.

Ond o'r dechrau roedd Thomas yn mynd amdani, a phan groesoedd y llinell mewn amser o 47:55:82, roedd ymhell ar y blaen.

Yna daeth Rohan Dennis o Awstralia i fewn dros bedair eiliad yn gyflymach cyn i'r Sais Alex Dowsett chwalu'r amser gorau i ennill y fedal aur mewn amser o 47:41:78.

Fe fydd gan Thomas gyfle arall am fedal mewn ras wahanol ddydd Sadwrn.

Roedd y Cymro wedi rhybuddio pobl i beidio disgwyl gormod ganddo yn Glasgow gan fod blinder yn ffactor bwysig wedi ei ymdrechion yn Ffrainc.

Ond yn y gwres ar ffyrdd yr ardal, fe wnaeth Thomas yn wych i gipio medal, gan adael pencampwr Delhi yn 2010, David Millar, ymhell y tu ôl iddo yn yr wythfed safle.

O'r tri i ennill medal, Thomas oedd yr unig un i gystadlu a gorffen ras fawr y Tour de France.

Gorffennodd Scott Davies o Gymru yn 16eg gyda Luke Rowe un safle'r tu ôl iddo.