Ffrainc 26-0 Cymru

Mewnwr Cymru Amy Day yn taclo cefnwr Ffrainc Caroline Ladagnous Image copyright Getty Images
Image caption Mewnwr Cymru Amy Day yn taclo cefnwr Ffrainc Caroline Ladagnous

Dechreuodd Cymru eu hymgyrch yng Nghwpan Rygbi'r Byd i Ferched gyda cholled 26-0 i Ffrainc ym Marcoussis.

Dau gais gan yr asgellwr Marion Lievre ac un i'r canolwr Shannon Izar roddodd y tîm cartref 19-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Er gwaethaf ymdrech ysbrydoledig gan Gymru, sgoriodd Elodie Poublan pedwerydd cais yn hwyr i roi buddugoliaeth â phwynt bonws i Ffrainc.

Mae hyn yn ergyd i obeithion Cymru o gyrraedd y rownd gyn-derfynol, gyda dim ond y tri enillydd o'r grwpiau a'r gorau o'r rhai ddaeth yn ail yn cymhwyso ar gyfer y pedair olaf.

I gael unrhyw siawns o symud ymlaen rhaid i Gymru ennill eu gêm nesaf ddydd Mawrth yn erbyn Awstralia, a gurodd De Affrica yn gynharach ddydd Gwener.

Fel y tîm cartref a deiliaid y Chwe Gwlad, Ffrainc yw un o'r ffefrynnau i ennill Cwpan y Byd.