'Sioc' y cyflwynydd Lucy Owen am effaith yfed

Lucy Owen
Image caption Lucy Owen cyn ac ar ôl

Mae cyflwynydd BBC Cymru Lucy Owen wedi cael cipolwg o'r dyfodol sy'n peri pryder - pe byddai hi'n yfwr cyson.

Rhoddodd lun ohoni ei hun i mewn i app sy'n rhagweld sut y gallai edrych mewn 10 mlynedd pe byddai'n yfed 10 neu fwy gwydraid o win yr wythnos.

Yr oedd yn rhan o ymchwil ar gyfer rhifyn arbennig ar iechyd o raglen X-Ray BBC Cymru.

"Cefais sioc lwyr, yr wyf yn edrych yn erchyll. Mae'n sicr yn sobreiddiol i weld effaith yfed yn rheolaidd," meddai'r cyflwynydd.

Bydd X-Ray hefyd yn rhoi sylw i'r calorïau sydd mewn diodydd alcoholig a'r effaith y gall hynny ei chael ar iechyd.

"Nid oeddwn yn gallu credu bod tua'r un nifer o galorïau mewn dau wydraid mawr o win ag sydd mewn gwydraid o hufen sengl," meddai Lucy.

"Rwy'n ceisio bwyta'n iach er mwyn osgoi magu pwysau, ond nid oeddwn wedi rhoi llawer o sylw i galorïau gwin o'r blaen.

"Rydw i'n fwy ymwybodol o hynny yn bendant yn awr."

X-Ray, BBC One Wales am 19:00ddydd Llun.

Hefyd ar y BBC