Cip yn ôl ar ddiwrnod cynta'r Brifwyl

pafiliwn pinc a chymylau
Image caption Cyfnewidiol iawn oedd y tywydd ar ddiwrnod cynta'r Brifwyl yn Sir Gâr

Roedd 'na wynt, glaw a heulwen ar faes y Brifwyl ar ddiwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.

15,177 o bobl ddaeth i'r maes yn Llanelli. Mae hynny'n llai na'r blynyddoedd diweddara' ar y Sadwrn cyntaf:

  • 2013 - 16,571
  • 2012 - 18,207
  • 2011 - 17,881
  • 2010 - 14,702

Y bandiau pres oedd yn hawlio'r llwyfan, wrth i fandiau dosbarth pedwar, tri a dau gystadlu.

Yn ogystal, bu'r corau cymysg dros 45 mewn nifer yn cystadlu.

I weld holl ganlyniadau'r dydd, ewch i'n tudalen canlyniadau.

Ac i ddarganfod pa seren Hollywood oedd y maes heddiw, ewch i'r oriel luniau.

I gloi digwyddiadau'r pafiliwn am y dydd, roedd 'na seremoni i wobrwyo enillwyr prif wobrau'r adran Celfyddydau Gweledol.

Sean Edwards enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain am ddarn fideo.

Aeth y Fedal Aur am Grefft a Dylunio eleni i Susan Phillips am waith porslen.

Cwmni Loyn and Co o Gaerdydd gafodd y Fedal Bensaerniaeth am dŷ ym Mhenrhyn Gŵyr.

Image caption Y timau'n gwrando'n astud ar Feuryn y Talwrn, Ceri Wyn Jones

O gwmpas y maes, roedd y Babell Lên dan ei sang ar gyfer rownd derfynol Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru.

Tîm Caernarfon aeth â hi, a dau bwynt yn unig yn eu gwahaniaethu nhw â thîm Y Glêr. 76 i 74 oedd y sgôr terfynol.

Cafodd sesiwn goffa ei chynnal yn dilyn y Talwrn, i gofio Gerallt Lloyd Owen, y Prifardd a'r cyn-Feuryn fu farw ychydig wythnosau yn ôl.

Am fwy o wybodaeth am y Brifwyl, ewch i'n gwefan eisteddfod arbennig.