Medal arian i Sally Peake

Sally Peake Image copyright Owen Rawlings
Image caption Sally Peake

Fe wnaeth Sally Peake ennill medal arian i Gymru nos Sadwrn yn y naid bolyn.

Mewn amodau gwlyb ar noson olaf yr athletau ym Mharc Hampden, fe wnaeth Peake godi 4.25m i glirio'r bar.

Alana Boyd o Awstralia oedd enillydd y fedal aur ar ôl mynd drosodd ar 4.35m.

Y fedal arian i Peake oedd dim ond y drydedd fedal i Gymru yn y cystadlaethau trac a maes hyd yma gydag Aled Siôn Davies yn ennill arian wrth daflu'r ddisgen F42/44 a Rhys Jones yn cipio'r efydd yn y 100m T37.

Ar ddiwrnod olaf ond un y cystadlu yn Glasgow, roedd Chris Gowell yn 10fed yn y 1,500m ac Elinor Kirk yn 12fed yn rownd derfynol y 5,000m.

Gorffennodd tîm cyfnewid 4x100m y merched yn seithfed gan greu record newydd i Gymru o 44.51 eiliad a daeth Lee Doran yn wythfed wrth daflu'r waywffon.