Damwain farwol: Apêl am dystion

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion ar ôl i feiciwr modur gael ei ladd mewn damwain yng Nghwmdu ger Crughywel ddydd Sul.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng y beic a dau gar tua 14:00 a bu ffordd yr A479 ynghau am gyfnod.

Dywed yr heddlu fod y beic wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda Land Rover discovery glas a char BMW.