Ceisio achub y Llygoden Ddŵr yn ardal yr Eisteddfod

Llygoden ddwr Image copyright Brian Chard
Image caption Mae 100 o lygod ifainc yn cael eu rhyddhau

Bydd 100 o lygod ifainc yn cael eu rhyddhau dafliad carreg o ardal y Brifwyl yn Llanelli mewn ymdrech i arbed poblogaeth y Llygoden Ddŵr brin.

Y llygoden ddŵr yw'r mamal sy'n diflannu gyflymaf ym Mhrydain gyda hyd at 95% o'i phoblogaeth wedi crebachu ers y 1960au.

Swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn rhyddhau'r llygod ifainc i safle'r Ffrwd, mewn gwarchodfa natur ger Pen-bre.

Dewiswyd y safle yn Ffrwd, ger Pen-bre, sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), oherwydd bod yno gynefin gwych ar gyfer yr anifail, gan gynnwys ffosydd, pyllau, gwlâu cyrs, a chors.

Dywedodd Hilary Foster, Swyddog Bioamrywiaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: "Ar un adeg bu llygod y dŵr yn gyffredin mewn afonydd, camlesi a phyllau ledled Cymru.

Poblogaethau

"Ond golyga colli cynefin, a'u bwyta gan fincod Americanaidd, eu bod wedi prinhau'n arw yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, ac y maen nhw o dan fygythiad enfawr erbyn hyn.

"Mae sefydlu'r boblogaeth hon mewn safle delfrydol yn gam pwysig tua rhoi iddynt well cyfle i oroesi yn y gorllewin.

"Yn y tymor hir, rydym yn gobeithio y bydd y newydd ddyfodiaid yn dod i gyswllt â'r poblogaethau presennol yn Llanelli a Thalacharn."

Mae'r llygod sy'n cael eu rhyddhau wedi ei magu o lygod cafodd eu dal ar safle yn Llanelli yn hydref y llynedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn gweithio â grwpiau cadwraeth a thirfeddianwyr lleol er mwyn gwella'r cynefinoedd cyfagos.

Dywed CNC fod y gwaith hefyd wedi bod o fudd ehangach ar gyfer rhywogaethau eraill, fel dyfrgwn ac ystlumod.

Mae'r cynllun yn bartneriaeth ar y cyd rhwng tirfeddianwyr lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, a Chyngor Sir Gaerfyrddin.

Straeon perthnasol