Dod o hyd i gorff ar Ynys Creta

Arthur Jones Image copyright Jeffrey Jones
Image caption Doedd neb wedi gweld Arthur Jones ers 19 Mehefin.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod yr awdurdodau ar Ynys Creta wedi dod o hyd i gorff dyn.

Mae teulu Arthur Jones o Ddinbych wedi cael gwybod am y datblygiad diweddaraf ac yn dweud bod y newyddion wedi bod yn sioc iddyn nhw.

Aeth Mr Jones, 73 oed, ar goll o'i westy ger Chania ar yr ynys ar 19 Mehefin.

Dywedodd Mark Owen, Cydlynydd Pobl ar Goll gyda Heddlu'r Gogledd:

"Yn dilyn trafodaeth gyda'r Swyddfa Dramor bore 'ma rydym yn deall bod corff dyn wedi ei ddarganfod gan yr awdurdodau mewn ardal wledig yn Chania yng ngogledd Ynys Creta."

Cafodd y corff ei ddarganfod yn pwyso ar goeden ar dir garw yn y wlad. Mi fydd yna broses yn digwydd rwan i adnabod y corff.

Mae mab Arthur Jones, Jeff Jones wedi dweud bod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai anodd i'r teulu:

Amser i alaru

"Mae wedi bod yn ysgytwad ofnadwy ac yn sioc fawr i gael ryw newyddion o'r diwedd. Ond mae'n gysur gwybod ei fod o'n gwneud rhywbeth yr oedd o'n mwynhau."

"Mi fydden ni fel teulu yn hoffi diolch i bawb am y gefnogaeth, y cymorth a'r cyfraniadau wrth i ni geisio dod o hyd i'n tad ers iddo fynd ar goll chwe wythnos yn ôl.

"Mae'r chwe wythnos diwethaf wedi bod yn rhai o straen ac wedi bod yn anodd ymdopi. Ond mi fydden i nawr yn gofyn am amser, heddwch a phreifatrwydd i gael galaru am ein tad."

Pan ddiflannodd Mr Jones aeth swyddogion Heddlu Gogledd Cymru ynghyd â'i deulu i'r ynys i chwilio am y pensiynwr - ond yn ofer.

Mi wnaeth criw o bobl leol o Ddinbych, gan gynnwys diffoddwyr tân a chyn-filwyr, hefyd hedfan i'r ynys i helpu.

Roedd Mr Jones yn gerddwr profiadol ers 40 mlynedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.