Digwyddiadau yn coffáu dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf

Eglwys
Image caption Pobl yn cyrraedd ar gyfer y gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Llandaf

Mae digwyddiadau wedi bod yng Nghymru a thu hwnt yn coffáu 100 mlynedd union ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafwyd gwasanaeth coffa cenedlaethol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf nos Lun ac un yn ystod y diwrnod yng Nghadeirlan Glasgow gyda'r Tywysog Charles, Prif Weinidog y DG David Cameron, a Phrif Weinidog Cymru yn bresennol.

Mi roddodd Carwyn Jones dorch ar y senotaff yn sgwar George yn y ddinas.

Dywedodd Mr Jones: "Mae'n fraint ac anrhydedd i gael y cyfle i gofio rhai o Gymru wnaeth golli eu bywydau ac i roi torch dros pobl Cymru."

Yr Hybarch Gerwyn Capon, Deon Llandaf, a'r Parchedig Ganon Aled Edwards oedd yn arwain y gwasanaeth yn Llandaf.

Y Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru, oedd yn pregethu gyda'r gwasanaeth yn un aml ffydd ac aml ieithog.

Yn ystod y gwasanaeth darllenodd y Prif Weinidog un o gerddi Hedd Wyn, Rhyfel. Mi fuodd y bardd farw wrth ymladd yn y rhyfel yn 1917.

"Newid meddwl"

Image caption Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru

Cafwyd darllediad yn Saesneg o'r testament newydd gan Sue Lent, dirprwy gynghorydd Cyngor Caerdydd. Dywedodd Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru fod na "ddim byd yn ogoneddus am ryfel."

"Mae edifeirwch yn golygu newid meddwl. Mae'n golygu penderfynu peidio gwneud peth o'r fath byth eto...Ar y gorau mae rhyfel yn golygu cymryd anadl i weithio tuag at adeiladu byd heddychlon."

Yn ystod y noson mi ddarllenodd dau ddisgybl o Ysgol Bro Gwaun neges o ewyllys da Urdd Gobaith Cymru. Mae'r neges yn dod eleni gan bobl ifanc Sir Feirionnydd.

Image caption Yr Hybarch Gerwyn Capon, Deon Llandaf

Mi gafodd torchau gwyn eu gosod hefyd gan nifer yn cynnwys Maer Caerdydd a Dug Caerloyw.

Cafwyd gweddi gan y Parchedig Ganon Aled Edwards. Roedd y weddi yn dweud bod angen cofio am y rhai gafodd eu hanafu, y rhai wnaeth golli eu heiddo, eu bywoliaeth, eu cartrefi a bod angen maddau am erchyllterau'r rhyfel.

Cafwyd hefyd Bendith y Goleuni yn Saesneg, Cymraeg ac Almaeneg. 'The Last Post' oedd y gân olaf i gloi'r gwasanaeth sydd yn gerddoriaeth adnabyddus a ddefnyddir gan y lluoedd arfog i goffáu milwyr sydd wedi eu lladd ac yna roedd clychau'r eglwys Gadeiriol yn canu.

Image caption Carwyn Jones yn darllen un o gerddi Hedd Wyn

'Aberth enfawr'

Roedd yna annogaeth i bobl ddiffodd eu goleuadau rhwng 10 ac 11pm er mwyn nodi dechrau'r rhyfel, gan adael golau neu gannwyll unigol am eiliadau fel bod modd "myfyrio ar y cyd".

Mae'n symbol o ddyfyniad enwog Syr Edward Greys, oedd yn ysgrifennydd tramor. Dywedodd o: "Mae'r lampau yn cael eu diffodd ar draws Ewrop. Nawn ni ddim eu gweld nhw'n cynnau eto yn ystod ein hoes ni."

Digwyddodd hyn yn y gwasanaeth gyda un gannwyll yn cael ei chynnau.

Image caption Gwaith Bedwyr Williams

Yn rhan o Diffodd y Goleuadau roedd digwyddiad celfyddydol ym Mangor nos Lun gyda'r artist Bedwyr Williams yn gwneud cyflwyniad sain a fideo ar safle Porth Coffa Gogledd Cymru.

Ym Mangor hefyd cafwyd gwasanaeth gorymdeithiol yn yr Eglwys Gadeiriol ac mi aeth rhai i ben Moel Famau gyda eu ffaglau yn cael eu diffodd am ddau funud fel symbol o'r blacowts yn ystod y rhyfel.

Mi ddiffoddwyd goleuadau adeiladau Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Cynulliad, Castell Caernarfon a Chastell Coch gan adael dim ond un golau.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC