Dau yn yr ysbyty wedi ffrwydrad

Ty Image copyright Athena

Mae'r criwiau tân yn dweud bod llawr cyntaf yr adeilad wedi ei ddifrodi yn sylweddol.

Mi fuon nhw wrthi am dros dair awr a hanner yn taclo'r fflamau.

Ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran gwmni Wales and West Utilities nad oedden nhw wedi dod o hyd i dystiolaeth bod nwy wedi gollwng o bibellau'r ardal.

Er hynny, ychwanegon nhw nad oedd peirianwyr wedi llwyddo i edrych y tu mewn i'r tŷ hyd yn hyn oherwydd y difrod.Mae dau ddyn wedi eu hanfon i'r ysbyty yn dilyn ffrwydrad mewn tŷ yn Nhycroes, Sir Gâr nos Lun.

Image copyright Athena
Image copyright Athena