Cymdeithas yr Iaith yn galw am wella'r safonau iaith

Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio datganiad ynglŷn â newidiadau i'r safonau iaith newydd, gan alw am wella'r safonau hynny.

Mae Penri Williams, cadeirydd y grŵp ymbarel Dathlu'r Gymraeg, ynghyd â nifer o Aelodau Cynulliad wedi arwyddo datganiad sy'n galw ar y Llywodraeth i wella'r dyletswyddau newydd a fydd yn disodli cynlluniau iaith.

Ymysg y newidiadau mae'r datganiad yn galw amdanyn nhw, mae sicrhau bod y rheoliadau newydd yn creu hawliau clir i bobl, peidio â gadael i gyrff gynnig gwasanaethau sy'n llai na'r cynlluniau iaith presennol, galluogi mwy o gyrff i weithredu'n fewnol yn y Gymraeg a sicrhau bod gwasanaethau sy'n cael eu contractio allan yn cael eu darparu yn yr iaith.

Ymgyrch yn cael effaith

Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rwy'n falch bod ein hymgyrch yn dechrau cael effaith ar y Llywodraeth gan eu bod nhw wedi gorfod cynnwys elfen o hawliau i chwarae yn Gymraeg.

"Rydyn ni'n disgwyl i Carwyn Jones gadw at ei air i wrando ac i weithredu'r newidiadau er mwyn datrys y gwendidau sylfaenol yn ei safonau drafft.

"Mae cannoedd o'n haelodau, a Chomisiynydd y Gymraeg, wedi pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod pobl yn cael hawliau clir, yn hytrach na rheoliadau sydd ond yn hwylus i gyrff a chwmnïau.

"Os ydy'r Llywodraeth yn creu hawliau clir, dealladwy a chynhwysfawr, rwy'n fodlon ystyried eu gwobrwyo gyda medal aur.

Torri addewidion

Aeth ymlaen i ddweud: "Rydyn ni'n obeithiol y bydd y Llywodraeth yn gwrando - dyna be maen nhw wedi addo gwneud. Fodd bynnag, fel saif y safonau iaith ar hyn o bryd, byddai'r Llywodraeth yn torri nifer o addewidion a wnaed gan y Prif Weinidog.

"Maen nhw'n caniatáu i gyrff gynnig gwasanaethau llai na chynlluniau iaith ac yn caniatáu i wasanaethau sydd wedi eu contractio allan fod yn uniaith Saesneg.

"Mae nifer o gyrff hefyd am symud at sefyllfa lle maen nhw'n gweinyddu'n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, ond dyw'r safonau ddim yn cynnig dim modd i gefnogi'r dyhead yna. Yn wir, does dim un o'r safonau yn anelu at sicrhau bod cyrff yn cyflogi staff gyda sgiliau iaith er mwyn darparu gwasanaeth yn Gymraeg."

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni fwriedir i'r Safonau a osodir ar sefydliadau gwympo islaw darpariaethau eu Cynlluniau Iaith presennol - ond yn hytrach eu datblygu a'u moderneiddio.

"Ymhlith y dyletswyddau y gall y Comisiynydd eu gosod ar sefydliadau y mae gofyniadau i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a gofyniadau o ran sut maent yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg yn fewnol. Rydym o'r farn y bydd hyn yn gwella safon gwasanaethau Cymraeg i bobl Cymru.

"Bydd ymgynghoriad ar y Rheoliadau yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd a gall Cymdeithas yr Iaith, fel pawb arall, gyfrannu eu syniadau i'r broses honno."

Straeon perthnasol