Dedfrydu Paul Mapps i oes dan glo am lofruddio

Paul Mapps Image copyright Arall
Image caption Bydd rhaid i Paul Mapps dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo

Mae dyn a lofruddiodd cyn-gariad ei chwaer wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd.

Roedd Paul Mapps, 26 o Drinant, Caerffili, wedi trywanu Ian Davies, 27, mewn parti ar Ionawr 11, a bu farw Mr Davies o'i anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Roedd Mapps wedi gwadu llofruddiaeth a dywedodd ei fod wedi ceisio amddiffyn ei hun, ond cafwyd yn euog ym mis Gorffennaf.

Dywedodd y barnwr, Neil Bidder QC, y bydd rhaid i Mapps dreulio o leiaf 20 mlynedd dan glo.

Datganiad y barnwr

Yn ystod yr achos, clywodd y llys bod Mapps a Mr Davies wedi bod yn ffrindiau da pan ddechreuodd Mr Davies berthynas gyda chwaer Mapps, Dawn.

Ond clywodd y rheithgor bod y sefyllfa wedi newid pan ddaeth y berthynas honno i ben.

Dywedodd yr erlynydd bod Mapps yn "ymosodol" a'i fod wedi trywanu Mr Davies gyda chyllell ym mharti pen-blwydd ei chwaer.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr: "Tydw i heb ddirnad eich bod chi'n edifar am yr hyn wnaethoch chi.

"Rydw i'n sicr y gallaf wrthod unrhyw awgrym eich bod chi wedi gweithredu i amddiffyn eich hun.

"Rydych chi'n cael trafferth i reoli eich tymer, er gwaethaf y ffaith ei bod chi wedi cymryd rhan mewn cwrs rheoli tymer yn y gorffennol.

"Dim ond un ddedfryd allai ei rhoi, a honno yw oes dan glo. Byddwch yn treulio o leiaf 20 mlynedd yn y carchar, a byddwch yn cael eich rhyddhau dim ond os nad ydych bellach yn peri perygl i'r cyhoedd.

"Efallai na fyddwch chi byth yn cael eich rhyddhau."

Straeon perthnasol