Band Eang: Cymru yn cau'r bwlch

Cyfrifiaduron tabled Image copyright Apple
Image caption Yn ôl gwaith ymchwil, mae siaradwyr Cymraeg yn llai tebygol o ddefnyddio cyfrifiaduron tabled yn eu cartrefi.

Mae Cymru'n dal i fyny o ran cyflwyno band eang cyflym iawn ond yn parhau i fod tu ôl i gyfartaledd y DU, yn ôl ymchwil newydd gan Ofcom.

Yn ôl adroddiad blynyddol Ofcom, y corff sy'n gyfrifol am reoleiddio'r diwydiant cyfathrebu, mae nifer yr aelwydydd ble mae rhwydweithiau Mynediad i'r Genhedlaeth Nesaf ar gael - sy'n cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau band eang cyflym iawn, wedi cynyddu 10% mewn blwyddyn.

Mae hyn yn golygu bod y gwasanaeth ar gael mewn 58% o leoliadau, o gymharu â chyfartaledd y DU sy'n 78%.

Eleni am y tro cyntaf mae Ofcom yn rhoi gwybodaeth am niferoedd y Cymry Cymraeg sy'n defnyddio dyfeisiau a gwasanaethau cyfathrebu.

Mae'r adroddiad yn dangos bod siaradwyr Cymraeg yn llai tebygol o gael cyfrifiadur tabled yn eu cartref (34% o'i gymharu â 45% - y cyfartaledd Cymreig) ac mae canran y siaradwyr Cymraeg sy'n defnyddio ffôn symudol i fynd ar y rhyngrwyd yn is (39% o'i gymharu â 52%).

Yn gysylltiedig â hyn, mae'r defnydd o ffonau clyfar (smartphones) yn is ymhlith siaradwyr Cymraeg (42% o'i gymharu â 57% ar draws Cymru).

Mae'n debygol mai'r rheswm am hyn yw bod demograffeg siaradwyr Cymraeg yn hŷn, a bod cyfran uwch o Gymry Cymraeg yn byw mewn ardaloedd gwledig.

Roedd yr ymchwil ar gyfer yr adroddiad yn dangos bod cyfran yr oedolion yng Nghymru a oedd wedi cofrestru ar gyfer cysylltiad band eang sefydlog neu symudol yn 71% - er gwaethaf y cynnydd yn argaeledd gwasanaethau band eang newydd. Mae'r ffigwr hwn 6% yn is na chyfartaledd y DU.

Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: "Mae Cymru wedi bod ar ei hôl hi yn rhy hir o gymharu â'r DU yng nghyswllt gwasanaethau cyfathrebu. Yn ôl ein hymchwil, mae Cymru'n dechrau cau'r bwlch mewn perthynas â chyflwyno gwasanaethau band eang cyflym iawn.

Hwb

"Mae ein hymchwil hefyd yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw gwasanaethau cyfathrebu i gwmnïau bach a chanolig ac i economi Cymru'n gyffredinol. Bydd canfyddiadau'r adroddiad heddiw'n feincnod ar gyfer datblygu ein gwaith ymhellach yn y maes hwn."

Yn ôl Ofcom, mae cynnydd wedi bod mewn argaeledd band eang cyflym iawn yn sgil prosiect Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru.

Dywed Llywodraeth Cymru fod y prosiect wedi arwain at fand eang ffibr ar gyfer 156,000 o adeiladau, ar draws 14 ardal unedol erbyn mis Mai 2014.

Nawr, mae'r gwasanaethau band eang domestig cyflymaf yn y DU ar gael mewn rhai rhannau gwledig yng Nghymru, hyd at 330Mbit yr eiliad.

Nod y prosiect yw sicrhau bod band eang cyflym iawn ar gael i 96% o gartrefi a busnesau erbyn 2016.

Am y tro cyntaf, astudiodd adroddiad Ofcom y farchnad gyfathrebu mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Profiad busnesau

Roedd 81% o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn dibynnu'n llwyr ar wasanaethau cyfathrebu i redeg eu busnes.

Mae ychydig dros dri chwarter (76%) y busnesau bach a chanolig yng Nghymru ar-lein erbyn hyn ac mae hyn yn wir ar draws ardaloedd trefol a gwledig.

Er bod y rhan fwyaf o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru'n defnyddio gwasanaethau ar-lein, ac yn fodlon â chyfleusterau cyfathrebu yn gyffredinol, roedd chwarter yn dweud eu bod wedi cael profiad o ddarpariaeth symudol gwael, ac roedd dros chwarter yn dweud nad oedd eu cyswllt â'r rhyngrwyd yn ddibynadwy iawn.

Mae lefelau bodlonrwydd â dibynadwyedd gwasanaethau ffôn symudol o ran ansawdd y signal neu'r cysylltiad, argaeledd daearyddol, a'r gallu i anfon/derbyn negeseuon e-bost neu i gael mynediad i'r rhyngrwyd, yn is mewn ardaloedd gwledig nag ardaloedd trefol.

Mae ychydig o dan hanner (47%) y busnesau bach a chanolig yng Nghymru yn defnyddio'r iaith Gymraeg yn eu trafodion busnes.

Roedd tua 42% o fusnesau bach a chanolig yn dweud bod eu darparwr cyfathrebu'n cyfathrebu â hwy drwy'r Gymraeg.

Hefyd roedd 15% o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru a ddywedodd nad yw eu darparwr cyfathrebu'n siarad Cymraeg â nhw ar hyn o bryd yn dweud y byddai'n well ganddyn nhw petaen nhw'n gwneud hynny.

Straeon perthnasol