Morgannwg yn colli

Mae Morgannwg wedi colli i Swydd Caint mewn gem Cwpan Undydd ar faes Spitfire yn St Lawrence.

Enillodd y tîm cartef o chwe wiced ar ôl i fowliwr Caint Doug Bollinger (5-35) helpu yn y gwaith o ffrwyno batwyr Morgannwg i sgôr o 209.

Dim on Chris Cooke (73) lwyddodd i sgorio mwy na hanner cant i'r ymwelwyr.

Llwyddodd Fabian Cowdrey (42) a Darren Stevens (62) i daro partneriaeth o 70 wrth i Gaint ennill gyda chwe phelawd yn weddill.

Caint 21--4 (43.4 pelawd) yn curo Morgannwg 209 (46.4 pelawd ) o chwe wiced.