Y straeon sydd wedi tynnu sylw Ifan Morgan Jones

Maes carafanau'r Eisteddfod

Mae'n wythnos Eisteddfod, a'r brifwyl yw pwnc trafod nifer yn y blogfyd yr wythnos hon.

Gan gynnwys Rhodri ap Dyfrig, fu'n myfyrio ar ei brofiad o fod yn garafaniwr ar y maes carafannau am y tro cyntaf yn ei hanes.

Er iddo fynychu bob Eisteddfod ers ei eni - a'r cyntaf pan oedd yn fis oed - dywed nad yw erioed o'r blaen wedi aros ar y maes carafannau.

Iddo ef, symbol o rywbeth nad oedd byth eisiau bod - y carafaniwr eisteddfodol dosbarth canol Cymraeg - oedd y maes hwnnw. Yn wir, datblygodd math o 'Faescarafanitis' dros y blynyddoedd.

Ac mae'r euogrwydd yn parhau, meddai, wrth iddo aros mewn carafan yr wythnos hon - ac yn waeth byth, mae'n mwynhau ei hun yn fawr.

"Dwi wedi ildio," meddai. "Wyf garafaniwr. Ac rwyf am ei fwynhau."

Y Gair-N

Mae Dylan Llyr ar ei flog Anffyddiaeth yn mynd i'r afael â mater ychydig yn fwy difrifol, sef penderfyniad Myfanwy Alexander i adael cabinet Cyngor Powys ar ôl defnyddio'r gair 'N'.

Roedd Myfanwy Alexander wedi defnyddio'r gair wrth ddisgrifio'r modd yr oedd Cymry yn cael eu trin gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Dywed Dylan Llyr nad oedd unrhyw hilioldeb yn perthyn i ddefnydd Myfanwy Alexander o'r gair. Ei phwynt oedd bod yr awdurdodau tros y ffin yn trin Cymry Cymraeg yn eilradd a chyda dirmyg, fel y gwnaed - ac y gwneir - yn achos pobl croenddu, meddai.

Y cyd-destun sy'n bwysig, yn ei farn ef. Condemnio'r weithred o ystyried rhywun yn y fath ffordd a wnaed gan Myfanwy Alexander, nid ei gefnogi.

Serch hynny, mae'n cydnabod nad yw'n ddoeth crybwyll profiadau siaradwyr Cymraeg yn yr un frawddeg â hiliaeth yn erbyn pobl groenddu - yn enwedig gan eu bod nhw wedi dioddef erchylltra eithriadol hanesyddol y tu hwnt i ddirnadaeth y Cymry.

Ap BBC Cymru Fyw

Cyhoeddiad mawr yr wythnos o faes y brifwyl, ymysg y cyfryngau Cymraeg o leiaf, oedd lansio ap Cymru Fyw y BBC, ar gyfer llwyfannau Android ac Apple.

Image caption Cafodd ap BBC Cymru Fyw ei lansio ar faes yr Eisteddfod ddydd Llun

Dyma ap Cymraeg cyntaf y BBC, ac mae'n ei wneud yn llawer mwy hwylus i edrych ar y newyddion diweddaraf o Gymru ar ddyfais symudol.

Perffaith wrth grwydro'r maes, felly, ar yr amod bod modd cael cysylltiad â'r we, wrth gwrs.

Er mai cynnyrch y BBC yw'r ap, un o'i gryfderau yw ei fod yn cynnig dolenni i gynnwys Cymraeg arall ar y we - fel Golwg 360, y Daily Post, a blogiau o bob math.

#Fflurgate

Un arall sydd wedi bod yn crwydro'r maes yr wythnos hon yw'r awdur a'r gantores Fflur Dafydd.

Image caption Fflur Dafydd neu Elin Fflur?

Ac er iddi gael ei gwobrwyo sawl tro yn y pafiliwn, roedd hi o'r diwedd yn teimlo ei bod hi wedi cyrraedd y pegwn.

Hynny oherwydd bod ei llun yn y cylchgrawn Lol, mewn stori am y cyflwynydd Radio Cymru - Tommo - a lwyddodd i'w drysu gydag Elin Fflur yng ngŵyl Tafwyl Caerdydd.

Roedd gan yr awdures hyd yn oed 'hashnod' newydd i ddisgrifio'r digwyddiad - '#Fflurgate'.

Dwbl trwbl?

Mae Golwg360 wedi canolbwyntio ar gynnwys gweledol a clywedol yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gan gynnwys sawl fideo YouTube a phodlediad o'r maes.

Yn eu mysg mae cyfweliad gyda Lleucu Roberts, a lwyddodd i gipio'r Fedal Ryddiaith a'r Daniel Owen eleni - yr awdur cyntaf erioed i gyflawni'r 'dwbl' rhyddieithol.

Image caption Dathlu'r dwbl ond "dim ffiars" y bydd yn ennill y Gadair hefyd!

Yn groes i'r disgwyl, mae'n datgelu ei bod hi'n fwy nerfus wrth godi'r ail waith, ar y dydd Mercher, nag ydoedd y tro cyntaf, ar y dydd Mawrth.

Efallai mai presenoldeb yr Orsedd ar y llwyfan oedd wedi codi ofn arni.

Dywedodd nad oedd hi'n llythrennol yn coelio'r peth pan ddaeth yr alwad dyngedfennol o swyddfa'r Steddfod - ac roedd hi wedi mynnu cadarnhad ar bapur yn hytrach na dros y ffôn.

Serch hynny, does 'dim ffiars' y bydd buddugoliaeth arall heddiw, meddai - cawn weld!

Mae adolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch pob bore Gwener.