Ffrae am sylwadau llysgennad yr Ariannin

(Ch-dde) Carwyn Jones. Llywodraethwr Chubut Martin Buzzi, a llysgennad yr Ariannin Alicia Castro, yn yr Eisteddfod Image copyright Argentine embassy
Image caption (Ch-dde) Carwyn Jones. Llywodraethwr Chubut Martin Buzzi, a llysgennad yr Ariannin Alicia Castro, yn yr Eisteddfod

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones i ymbellháu o sylwadau 'di-chwaeth' am Ynysoedd y Falkland.

Gwnaed y sylwadau gan lysgennad yr Ariannin, Alicia Castro, ar ôl iddo gwrdd â Carwyn Jones er mwyn trafod paratoadau i nodi 150 mlynedd ers i'r Cymry cyntaf ymsefydlu yn y Wladfa.

Yn dilyn y cyfarfod yn yr Eisteddfod ddydd Mercher fe wnaeth Ms Castro ryddhau datganiad yn dweud fod y modd mae'r gymuned Gymreig wedi ei derbyn yn yr Ariannin yn gwrthbrofi 'propaganda' ynglŷn ag unrhyw gasineb tuag at bobl o dras Brydeinig.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru na chafodd y mater ei drafod yn ystod y cyfarfod gyda'r ddirprwyaeth o'r Ariannin.

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig fod yr Archentwyr wedi defnyddio'r cyfarfod fel rhan o wyddbwyll wleidyddol sy'n rhan o ffrae ddiplomyddol.

Dywedodd Ms Castro ei bod yn "gwrthod propaganda o un rhan o drigolion y Malvinas sy'n portreadu yr Ariannin fel pobl elyniaethus - a hynny er mwyn ceisio cyfiawnhau'r ffaith fod llywodraeth y DU yn gwrthod datrys yr anghydfod ynglŷn â sofraniaeth yr ynysoedd."

Image copyright Other
Image caption Andrew RT Davies: 'Angen eglurhad'

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymraeg, fod Mr Jones wedi bod yn 'naive' a galwodd ar y prif weinidog i ddatgan yn glir ei safiad ynglŷn â'r ynysoedd.

"Byddwn yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod wedi gweld y datganiad cyn iddo gael ei ryddhau. Pe bai hynny'n wir mae'n hynod naïve i'r Prif Weinidog ganiatáu i'w hun gael ei ddefnyddio fel hyn, ac mae angen eglurhad yn fuan.

"Pe na bai'r datganiad wedi ei weld, mae yna reidrwydd ar Carwyn Jones i ymbellhau o'r sylwadau, sylwadau y bydd nifer yn eu gweld yn sylwadau di-chwaeth.

"Fe wnaeth nifer o filwyr o Gymru golli eu bywydau wrth ryddhau'r Falkland, a dylid cofio eu haberth. Fe ddylai'r ynysoedd barhau yn Brydeinig cyn belled â bod y trigolion eisiau hynny".

Roedd Alicia Castro yn rhan o'r ddirprwyaeth o'r Ariannin oedd yn cynnwys Martin Buzzi, Llywodraethwr Talaith Chubut.

Bydd dathlu dyfodiad y Cymry yn cael ei gynnal yn nhalaith Chubut yn 2015.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Dyw'r mater heb gael ei ddatganoli a ni chafodd ei drafod gan y Prif Weinidog a Llywodraethwr Talaith Chubut Martín Buzzi, ddydd Mercher.

"Roedd y trafodaethau yn gyfle i ail arwyddo memorandwm o ddealltwriaeth rhwng Cymru a Chubut er mwyn adlewyrchu'r newid yn nhrefniadau cyfansoddiadol yma yng Nghymru.

"Gan fod yna ddiddordeb sylweddol wedi bod gan nifer o sefydliadau yng Nghymru yn y dathliadau 150 o flynyddoedd, roedd hwn hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth a phroffil y dathliadau."