£300,000 ar achosion y Goruchaf Lys

Amaeth
Image caption Dyfarnodd y Goruchaf Lys bod y Cynulliad yn gymwys i basio bil yn ymwneud â'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol er mwyn gosod isafswm cyflog ac amodau gwaith i weithwyr amaethyddol.

Mae llywodraethau Cymru a'r DU wedi gwario cyfanswm o dros £300,000 ar y tri achos yn y Goruchaf Lys yn ymwneud â phwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dyfarnwyd o blaid Llywodraeth Cymru yn y ddau achos cyntaf, er bod eu gwariant o £68,670 yn llai na hanner gwariant £160,838 Llywodraeth y DU.

Nid yw'r Goruchaf Lys wedi cyhoeddi ei ddyfarniad yn y trydydd achos, ond gwariwyd £69,769 gan Lywodraeth Cymru ond £2,075 yn unig gan Lywodraeth y DU ar ôl i'r Twrnai Cyffredinol benderfynnu peidio â chymryd rhan yn yr achos.

Daeth yr wybodaeth wedi cais BBC Cymru Fyw o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Amodau gwaith

Ym mis Gorffennaf, dyfarnodd y Goruchaf Lys bod y Cynulliad yn gymwys i basio mesur yn ymwneud â'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol er mwyn gosod isafswm cyflog ac amodau gwaith i weithwyr amaethyddol.

Gwariant Llywodraeth Cymru ar yr achos oedd £38,573 - yn cynnwys costau cyfreithiol allanol, ffi'r Goruchaf Lys a chostau argraffu a chynhyrchu dogfennau - tra bod Llywodraeth y DU wedi gwario £87,538.

Hwnnw oedd yr ail dro i'r Goruchaf Lys ddyfarnu o blaid Llywodraeth Cymru, wedi iddo ddod i'r casgliad fod gan y ddeddfwriaeth y pŵer i basio deddf yn newid y ffordd y mae cynghorau yn gwneud deddfau lleol.

Yn yr achos hwnnw, gwariodd Llywodraeth Cymru £30,097 tra bod Llywodraeth y DU wedi gwario £73,300.

'Herio cymhwysedd'

Ni chafwyd dyfarniad hyd yn hyn yn y trydydd achos - byddai'r Mesur Adennill Costau Meddygol am Glefydau Asbestos yn golygu y gallai Llywodraeth Cymru hawlio cost y driniaeth gan gyflogwr neu gwmni yswiriant yn sgil canlyniad achosion llys sifil.

Image copyright PA
Image caption Mae'r Goruchaf Lys wedi dyfarnu o blaid Llywodraeth Cymru ddwywaith

Gwariwyd £69,769 gan Lywodraeth Cymru ar ôl i'r achos gael ei gyfeirio at y Goruchaf Lys gan Gwnsler Cyffredinol Cymru.

Dim ond £2,075 a wariwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl i'r Twrnai Cyffredinol benderfynnu peidio â chymryd rhan yn y achos. Mae'r costau yn ymwneud ag ystyried ac ymateb wedi'r cyfeiriad at y Goruchaf Lys.

Cyfeiriwyd yr achos at y llys gan y Cwnsler Cyffredinol, Theodore Huckle oherwydd er ei fod o'r farn bod y mesur o fewn cymhwysedd y Cynulliad, roedd hefyd o'r farn "ei bod yn briodol yn yr achos hwn datrys mater cymhwysedd y mesur hwn yn glir cyn iddo ddod i rym, o gofio bod cyrff sy'n cynrychioli'r diwydiant yswiriant yn gyson wedi herio cymhwysedd y Cynulliad i basio'r mesur hwn".

'Eglurhad'

Dywedodd llefarydd ar ran swyddfa'r Twrnai Cyffredinol: "Mae'r llywodraeth yn edrych yn ofalus ar yr holl ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau ei fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.

"Pan fydd y llywodraeth yn teimlo ei bod yn angenrheidiol, mae'n iawn ein bod yn cael eglurhad o'r setliad datganoli gan y Goruchaf Lys, yn dilyn y broses y mae Deddf Llywodraeth Cymru yn nodi yn glir".

Ychwanegodd bod costau'r achosion yn cael eu "monitro a'u cadw mor isel â phosibl i sicrhau y gwerth gorau am arian".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r ffaith bod perygl i fesurau sy'n cael eu pasio gan ein Cynulliad democrataidd gael eu herio - gyda'r holl gostau ac ansicrwydd a ddaw yn sgil hynny - yn brawf bod angen diwygio'r setliad datganoli ar fyrder.

"Dyma pam rydyn ni eisiau gweld setliad cyfansoddiadol newydd sy'n cydnabod atebolrwydd uniongyrchol y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i bobl Cymru.

"Dylai'r setliad hwnnw hefyd roi'r pwerau eang sydd eu hangen i weithredu dros bobl Cymru a sicrhau cymaint o eglurder â phosibl ynghylch cymhwysedd y Cynulliad."

Straeon perthnasol