Uwchgynhadledd NATO: Gwaharddiad hedfan dros Gasnewydd

Gwesty'r Celtic Manor, Casnewydd
Image caption Mae disgwyl i 60 o arweinwyr byd ddod i westy'r Celtic Manor i'r uwchgynhadledd fis Medi.

Bydd gwaharddiad hedfan dros rannau o dde Cymru a Bryste yn ystod uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd.

Bydd y gwaharddiad yn atal awyrennau rhag hedfan o dan 10,500 troedfedd yn yr ardal, heblaw am y gwasanaethau brys.

Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (AHS) wedi gosod y gwaharddiad yn dilyn cais gan yr heddlu.

Ni fydd y gwaharddiad yn effeithio awyrennau sy'n teithio i ac o feysydd awyr Caerdydd a Bryste.

Mewn canllawiau sydd wedi eu hanfon at beilotiaid, dywedodd y AHS bod y gwaharddiad yn rhan o ymgyrch ddiogelwch i ddiogelu arweinwyr byd, gan gynnwys yr Arlywydd Obama, fydd yn mynychu'r uwchgynhadledd.

Ni fydd awyrennau heb eu hawdurdodi'n yn gallu hedfan dros ardal sy'n cynnwys Casnewydd, Caerdydd, cymoedd Gwent, Rhosan ar Wy a Bryste.

Bydd y gwaharddiad yn parhau rhwng 08:00 a 19:00 Medi 3-5, a rhwng 15:00 a 22:59 Medi 4.

Straeon perthnasol