Codi £4,000 i ymgyrch 'Ie' er cof am Gerallt Lloyd Owen

Gerallt Lloyd Owen
Image caption Roedd Gerallt Lloyd Owen wedi dweud cyn ei farwolaeth ei fod am i gyfraniadau fynd tuag at ymgyrch 'Ie' yr Alban

Mae bron i £4,000 wedi ei gasglu ar gyfer ymgyrch 'Ie' yr Alban, wedi i'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen ddweud cyn ei farwolaeth mai dyna oedd ei ddymuniad.

Cafodd £3,000 ei godi yn ei angladd ddiwedd mis Gorffennaf, ac mi gafodd y gweddill ei gasglu yn ystod rownd derfynol ymryson y beirdd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ddydd Gwener.

Dywedodd Elwyn Edwards, o gymdeithas Barddas: "Casglwyd £3,000 yn yr angladd ac yn y Babell Lên yn rownd derfynol ymryson y beirdd fe gasglwyd £700 eto.

Ychwanegodd y byddai'n gyrru siec i Ymgyrch 'Ie' yr Alban - Yes Scotland - ar fyrder yn enw Gerallt.

Ym mis Medi, fe fydd pobl yr Alban yn pleidleisio a ydyn nhw eisiau aros yn rhan o'r DU, neu a ydyn nhw am fod yn wlad annibynol.

Mae'r ddwy ochr ers sawl mis wedi bod yn ymgyrchu yn galed gyda'r arolygon barn yn awgrymu ei bod hi'n ras agos.

Yr SNP ac Alex Salmond sydd yn arwain yr ymgyrch 'Ie'.

Alistair Darling, y cyn ganghellor, yw un o'r gwleidyddion sydd wedi bod yn arwain yr ymgyrch 'Na'.

"Maen nhw ar ddiwedd yr ymgyrch bron iawn, ond mi fyddan nhw'n gwario'r arian ar yr ymgyrch. Maen nhw wedi cael £3,000.

"Dw i ddim yn siŵr ydyn nhw'n gwybod am heddiw."

Mae Elwyn Edwards yn dweud bod yr ymgyrch wedi cael gwybod o le mae'r arian wedi dod ac mai dyma oedd dymuniad un o feirdd amlycaf Cymru.

"Beth sydd yn anhygoel ydy bod pobl wedi rhoi mor hael yn enwedig yn yr angladd. Mae £3,000 wedi ei hel yn angladd rhywun yn andros o swm. Ac yna, yn ymryson y beirdd, £700."

Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan eisteddfod arbennig.