Elen Elis: 'Mwy o newid i ddod i'r Brifwyl'

Elen Elis
Image caption Elen Elis ar ddiwedd ei Phrifwyl gynta' wrth y llyw

Ar ddiwedd ei Phrifwyl gynta' fel trefnydd, mae Elen Elis wedi dweud wrth BBC Cymru Fyw bod mwy o newidiadau i ddod er mwyn sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod yn y dyfodol.

Mae golwg y maes wedi newid eleni, sawl pabell newydd wedi eu codi ac mae nifer o weithgareddau newydd wedi eu cynnal.

Ond dywedodd Ms Elis nad oedd unrhyw newidiadau "radical" ar eu ffordd, ond y byddai "camau bach" yn cael eu cymryd.

Dywedodd bod ei gŵyl gyntaf wrth y llyw wedi bod yn un "prysur a llwyddiannus" ond nad oedd hi'n bwriadu ymlacio, a'i bod wedi dysgu llawer er mwyn gwella'r Eisteddfod yn y blynyddoedd i ddod.

Gŵyl Weledol

Roedd maes Prifwyl Sir Gâr eleni yn edrych yn wahanol i'r blynyddoedd a fu, os dim arall.

Gwyn Eiddior oedd wedi bod yn brysur yn gweithio i ddatblygu ochr weledol y caeau, eu gwneud yn fwy lliwgar a haws i bobl ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas.

Ac roedd sawl atyniad newydd i'w gweld hefyd, gan gynnwys y Tŷ Gwerin, y Lolfa Lên a'r Pentref Drama.

Dywedodd Ms Elis bod y rhain wedi bod yn llwyddiant, gan roi "balans" rhwng y cystadlu a'r atyniadau eraill, a chynnig rhywbeth at ddant pawb.

Ond mae mwy i ddod, meddai.

'Camau bach'

"Bydd pethau'n datblygu, newidiadau bach, ond dwi'm yn credu mewn newid er mwyn newid, ond newid os oes ei angen o," meddai.

"Mae isho sbio be di'r trend, be sy'n ymddiddori pobl y dyddiau yma. Mae economi'r wlad yn newid, mae diwylliant yn newid, mae diddordebau pobl yn newid ac felly mae'n rhaid i ni newid.

"Symud ymlaen ydi o, ac edrych ar ddiwylliant Cymru, y traddodiadau yng Nghymru, mae'r Tŷ Gwerin 'di bod yn llwyddiannus iawn eleni felly, wrth gwrs, mae isho dysgu o hynny, ac wedyn mae angen moderneiddio hefyd mewn ardaloedd eraill.

"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cymryd camau i wneud hynny eleni, a hynny'n llwyddiannus, wedyn mi wnawn ni barhau i wneud hynny, datblygu at y dyfodol."

Er ei brwdfrydedd i weld yr ŵyl yn esblygu dros y blynyddoedd, nid ar chwarae bach fydd hynny'n digwydd.

"Dydy radical ddim yn rhywbeth sydd ar flaen fy meddwl i, dydy pobl ddim yn licio newid yn ormodol yn rhy fuan, a dwi'm yn bwriadu gwneud hynny.

"Felly trafodaeth gyda'r tîm, a gweld lle allwn ni fynd, a chamau bach dwi'n meddwl."

Awgrymodd hefyd efallai mai un newid fyddai lleihau neu "grynhoi'r" Maes a'i ddigwyddiadau yn y dyfodol.

"Dydyn ni ddim isho gormod o bethau chwaith, 'da ni ddim isho lledaenu pethau'n rhy denau ar draws y Maes, felly mae isho sbio ar hynny a fyddwn ni'n edrych ar y gweithgareddau sy'n digwydd y cystadlaethau a phethau felly, a gweld sut allwn ni grynhoi pethau ar gyfer y dyfodol."

'Gyrru iaith a diwylliant'

Er bod gymaint o waith wedi mynd i mewn i drefnu'r maes yn Llanelli, a hithau ddim yn dro cyntaf i'r Brifwyl ymweld â'r safle hwn ar arfordir Sir Gar, gwadodd Ms Elis y byddai'r Maes yn cael ei hystyried ar gyfer safle parhaol yn y dyfodol.

Er ei bod hi'n safle "delfrydol", dywedodd bod elfen deithiol yr ŵyl yn dal i fod yn hollbwysig.

"Ni 'di un o'r pethau sy'n bodoli sy'n gyrru iaith a diwylliant Cymru, ac os nad ydyn ni'n cymryd o i'r bobl, waeth ni heb a 'neud o.

"Os ydyn ni'n mynd i'r un ardal bob tro, bron a bod yr un bobl sy'n mynd i droi fyny bob tro, a dydy hynny ddim yn mynd i ddatblygu'r iaith a'r diwylliant ar draws Cymru.

"Ac os ydyn ni'n mynd i ardal ac yn rhoi'r cyfrifoldeb i bobl yr ardal dros ddwy flynedd i gymryd perchnogaeth o'r ŵyl... Os ydyn ni'n gwneud hynny 'de ni'n helpu pobl i greu cymdeithasau newydd, falle i greu côr, dod at ei gilydd fel dysgwyr.

"Beth bynnag ydy o, dwi'n gobeithio bod y ffaith bod ni'n mynd i'r ardal yn helpu hynny."

Ers cymryd drosodd gan Hywel Wyn Edwards y llynedd, dywedodd Ms Elis ei bod wedi dysgu llawer iawn.

"Dwi rŵan wedi gweld sut mae popeth yn gweithio fel trefnydd ac mae o'n mynd i roi sgôp i fi fedru cyfarfod hefo'r tîm a thrafod ymhellach be' sy 'di digwydd, syniadau newydd, sut allwn ni wella pethau a dyna be' fyddwn ni'n 'neud rŵan, dros y misoedd nesaf, ynghyd hefyd â pharatoi at Steddfod Maldwyn a'r Gororau'r flwyddyn nesaf a Steddfod Sir Fynwy 2016.

"Alla' i ddim sôn am bethau penodol ar hyn o bryd, ond gewch wybod mewn da bryd!"

Am fwy o'r Brifwyl, ewch i'n gwefan Eisteddfod arbennig.