Dartford 1-2 Wrecsam

Symbol Clwb Pêl-droed Wrecsam

Wes York oedd yr arwr wrth i Wrecsam gael y dechrau delfrydol i'w tymor newydd.

Fe wnaeth yr asgellwr - gafodd ei arwyddo o Nuneaton ar gytundeb blwyddyn - roi'r Dreigiau ar y blaen gyda'i gôl gystadleuol gynta' i'r clwb.

Tarodd Dartford yn ôl yn fuan yn yr ail hanner - Tom Bradbrook yn rhwydo.

Ond diwrnod Wes York oedd hi, ac fe sgoriodd y gôl i'w hennill hi 12 munud o'r diwedd, gan sicrhau triphwynt i Wrecsam.