Tri wedi marw mewn gwrthdrawiadau

Bryn Powell Image copyright Heddlu Dyfed Powys
Image caption Bu farw Mr Bryn Powell yn y gwrthdrawiad ger Llanymddyfri

Mae tri pherson wedi marw ac un arall wedi anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau gwahanol ar draws Cymru ddydd Sadwrn.

Ym Mhowys bu dau gerbyd mewn gwrthdrawiad y tu allan i Lanymddyfri am 15:55.

Roedd William Brynley Powell, oedd yn cael ei adnabod fel Bryn, yn 90 ac yn byw yn Abergwesyn ger Llanwrtyd. Bu farw yn y digwyddiad.

Yn Sir Benfro cafodd menyw ei lladd mewn gwrthdrawiad ar yr A477 rhwng Broadmoor a Redberth am 13:40.

Yn ddiweddarach ar yr M4, bu farw gyrrwr car mewn gwrthdrawiad rhwng C36 (Pen-y-bont ar Ogwr) a C37 (Y Pîl).

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystio i'r gwrthdrawiad yn Sir Benfro. Cafodd dau berson yn yr ail gerbyd eu cludo i'r ysbyty.

Yn y digwyddiad ar yr A483 ger Llanymddyfri fe gafodd tri pherson eu hanafu a'u cludo i'r ysbyty yn ogystal.

Mae Heddlu De Cymru hefyd yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad angheuol ar yr M4 a ddigwyddodd am tua 20:15. Un car - Toyota Avensis lliw arian - oedd yn y digwyddiad.

Bu gwrthdrawiad arall ym Mhowys hefyd - rhwng car a lori ar yr A4113 yn Nhrefyclo. Cafodd gyrrwr y car ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau sy'n peryglu ei fywyd yn ôl Heddlu Dyfed Powys.