Beirniadu Caerdydd am dderbyn ffi o £10 miliwn am Medel

Gary Medel Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Gary Medel argraff dda yn ystod cwpan y byd eleni.

Mae swyddogion clwb pêl-droed Caerdydd wedi eu beirniadu ar ôl i'r clwb dderbyn ffi o £10 miliwn gan Inter Milan am y chwaraewr Gary Medel.

Fe gwblhawyd trosglwyddiad y chwaraewr rhyngwladol o Chile ddydd Sadwrn, flwyddyn ar ôl i Gaerdydd dalu £11m i glwb Sevilla amdano.

Mae cyn-ymosodwr Caerdydd, Nathan Blake wedi ei "syfrdanu" nad oedd perchennog y clwb Vincent Tan wedi mynnu mwy o arian am Medel.

"Gan fod Mr Tan yn gymaint o ddyn busnes" meddai Blake, "rwy'n synnu ei fod wedi derbyn cyn lleied am y chwaraewr, roedd yn werth mwy 'na £10miliwn"

Mae Caerdydd wedi gwrthod ymateb i sylwadau Blake, a wnaed ar BBC Radio Wales, ac nid yw Inter Milan wedi cadarnhau trosglwyddiad Medel yn swyddogol.

Ychwanegodd Blake: "Os ydych chi'n negodi ac yn bendant eich bod chi am gael o leia' £2m neu £3m yn fwy nag y taloch chi amdano fe... mae beth bynnag sydd wedi digwydd rhwng asiant a rheolwyr a pherchnogion - sut maen nhw wedi cael £10m yn y pen draw ar ôl Cwpan y Byd, mae'n wallgo'."

Mae'r cyn-chwaraewr rhyngwladol Nathan Blake o'r farn mai Medel oedd un o chwaraewyr gorau Caerdydd yn ystod eu hymgyrch yn Uwch Gynghrair tymor diwethaf.

"Dwi ddim yn synnu ei fod wedi mynd. Dwi'n meddwl roedd yna ddau neu dri o chwaraewyr oedd yn mynd i adael Caerdydd os oedden nhw'n disgyn i'r bencampwriaeth, ac roedd e'n un ohonyn nhw, yn anffodus."

Gwnaeth Medel 34 o ymddangosiadau yn yr Uwchgynghrair dros Gaerdydd cyn creu argraff yng Nghwpan y Byd wrth iddo ymgymryd â rôl amddiffynnol yn nhîm Chile wrth iddyn nhw gyrraedd yr ail rownd cyn colli i Frasil ar giciau o'r smotyn.

Image copyright Getty Images
Image caption Medel yw'r pedwerydd enw mawr i adael yr Adar Gleision ers diwedd y tymor diwethaf.

O ran symudiadau eraill, mae'r chwaraewr canol cae Jordan Mutch a'r amddiffynnwr Steven Caulker wedi mynd i Queens Park Rangers, tra bod yr ymosodwr Fraizer Campbell wedi ymuno â Crystal Palace.

Mae'r rheolwr Ole Gunnar Solskjær wedi ceisio dod â chwaraewyr i mewn er mwyn ceisio llenwi'r bwlch a grëwyd yn sgil ymadawiad Mutch, Caulker a Campbell ac mae'n awyddus i arwyddo "o leiaf un" amddiffynnwr canol cyn i'r ffenestr drosglwyddo gau.

Fe gafodd Caerdydd ei gysylltu â'r chwaraewr o Senegal Lamine Sane pan roedd ymadawiad Medel yn cael ei drafod.