Super Cup: Real Madrid a Sevilla yng Nghaerdydd

Gareth Bale Image copyright Getty Images
Image caption Mae Gareth Bale wedi gwneud cryn argraff yn ei dymor cyntaf yn Madrid, gan sgorio yn rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr a'r Copa del Rey

Bydd Gareth Bale yn ôl yn ei filltir sgwâr nos Fawrth wrth i'w dîm gystadlu am Super Cup UEFA yn erbyn Sevilla yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Gêm flynyddol yw'r Super Cup rhwng enillwyr y ddwy brif gystadleuaeth Ewropeaidd, Cynghrair y Pencampwyr a'r Gynghrair Ewropa.

Mae Bale yn ôl yng Nghaerdydd ar ôl ei dymor cyntaf gyda'r Galactico's, ers iddo symud o Tottenham am £85.3m y llynedd.

Dywedodd ei fod wedi arfer hefo bywyd yn Sbaen erbyn hyn, a'i fod yn awyddus i ddechrau tymor newydd.

'Paratoi yn dda'

"Mae'n braf nad ydw i'n newydd bellach. Dwi wedi arfer ac wedi paratoi yn dda ar gyfer y tymor," meddai.

"Mae lot haws i fod wedi paratoi yn hytrach na aros i gwblhau trosglwyddiad.

"Rydyn ni eisiau ennill popeth, a dyna fyddwn ni'n ceisio ei wneud y tymor hwn."

Sgoriodd Bale ddwy gôl mewn buddugoliaeth o 7-3 i Madrid dros Sevilla y tymor diwethaf, a bydd yn sicr o fod yn gobeithio am ganlyniad tebyg ddydd Mawrth.

Felly mae rheolwr Sevilla, Unai Emery yn gyfarwydd iawn gyda doniau'r Cymro.

"Yn anffodus daethon ni i'w 'nabod yn y gêm gyntaf iddo chwarae, ac roedd ar lefel uchel iawn yn barod," meddai.

"Dydw i ddim wedi fy synnu pa mor sydyn y mae wedi addasu, mae o'n chwaraewr gwych ac yn athletwr gwych.

"Mae wedi addasu yn sydyn, oherwydd ei agwedd a'i bersonoliaeth. Mae ei steil a'i dîm yn gweddu ei gilydd, ac mae hynny wedi bod yn allweddol i'w lwyddiant."

Image copyright PA
Image caption Stadiwm Dinas Caerdydd, sydd wedi adeiladu mwy o seti yn ddiweddar, fydd yn cynnal y gêm.
  • Mae Real madrid yn chwarae yn y Super Cup am y pedwerydd tro, er iddyn nhw ennill y cwpan ond unwaith, a hynny yn 2002.
  • Dyma'r trydydd tro i Sevilla gystadlu, ac unwaith hefyd y maen nhw wedi bod yn fuddugol, a hynny yn erbyn Barcelona yn 2006.
  • Mae gan reolwr Real, Carlo Ancelotti, brofiad o ennill y gystadleuaeth. Roedd yn fuddugol hefo AC Milan yn 2003 a 2007.
  • AC Milan yw clwb mwyaf llwyddiannus y Super Cup. Maen nhw wedi ennill y gystadleuaeth pump o weithiau.
Image copyright FAW
Image caption Mae'r Super Cup wedi bod ar daith o amgylch Cymru cyn y gêm nos Fawrth

Gareth Bale

Dechreuodd chwaraewr drytaf y byd ei yrfa yn Southampton, lle gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn 2006, ac yntau yn 16 oed.

Ar ôl symud i Tottenham yn 2007, newidiodd ei safle o amddiffynnwr chwith i chwaraewr mwy ymosodol, a sgoriodd dros 40 o goliau i Spurs yn ystod ei amser yno.r yno.

Er na lwyddodd i ennill yr un cwpan na thlws gyda'r clwb, cafodd ei anrhydeddu gyda nifer o wobrwyon personol am ei berfformiadau rhagorol.

Cafodd ddechrau araf i'w dymor cyntaf yn Madrid wedi iddo arwydd, ond chwaraeodd rhan ganolog yn llwyddiant y clwb ar ddiwedd y tymor.

Sgoriodd y gôl fuddugol wrth i Real guro Barcelona yn rownd derfynol y Copa del Rey, ac yna sgoriodd yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Atletico Madrid.