Llanc 17 oed wedi marw wedi tân yng Nghwm ger Glyn Ebwy

Aeth y gwasanaethau brys i'r tŷ yn Stryd Stewart tua 03:00 fore Sul
Image caption Aeth y gwasanaethau brys i'r tŷ yn Stryd Stewart tua 03:00 fore Sul

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r llanc 17 oed fu farw wedi tân mewn tŷ ym mhentre Cwm ger Glyn Ebwy fore Sul.

Y llanc oedd Alex Lewis.

Aeth y gwasanaethau brys i'r tŷ yn Stryd Stewart tua 03:00 ac aed â'r llanc i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni ble bu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n meddwl bod y tân wedi ei gynnau'n fwriadol.

Roedd Abbi Powell, 18 oed, yn Ysgol Gyfun Glyn Ebwy yr un pryd ag Alex.

"Ro'dd e wastad yn gwenu, ro'dd pawb yn dwlu arno fe a fe'n dwlu ar bawb.

"Breuddwyd Alex o'dd ymuno â'r Fyddin."