Cwmni am werthu gorsafoedd petrol

Murco petrol station in Swansea Image copyright David Dixon
Image caption Bydd y gorsafoedd yn parhau i fasnachu dan enw Murco

Mae'r cwmni sy'n gwerthu purfa olew Murco yn Aberdaugleddau wedi cyhoeddi y byddan nhw hefyd yn gwerthu pob un o'u gorsafoedd petrol yn y DU.

Ym mis Gorffennaf cyhoeddodd Murphy Oil eu bod wedi dod i gytundeb gyda grŵp Klesch i werthu'r burfa, gan ddiogelu 400 o swyddi.

Ddydd Llun cyhoeddodd y cwmni fod 228 o orsafoedd petrol (78 yng Nghymru) yn cael eu gwerthu i grŵp Motor Fuel (MFG).

Yn ôl Reuters, fe gafodd £200 miliwn ei dalu am y gorsafoedd fydd yn parhau i fasnachu dan enw Murco.

Ar hyn o bryd mae gan MFG 60 o orsafoedd petrol ym Mhrydain, gan gynnwys rhai sy'n gwerthu dan labeli BP a Total.

Cwblhau

Dywedodd Murphy Oil eu bod yn disgwyl i'r cytundeb gyda MFG gael ei gwblhau erbyn 30 Medi, fis cyn bod disgwyl i'r cytundeb ar purfa olew Aberdaugleddau gael ei gwblhau.

Ar un adeg roedd hi'n edrych fel pe bai dyfodol swyddi'r burfa yn y fantol ar ôl i Muprhy gyhoeddi na fyddan nhw'n prosesu olew crai ar y safle.

Ym mis Ebrill fe fethodd trafodaethau i geisio sicrhau cytundeb i werthu'r burfa am £300 miliwn.

Ond ddiwedd mis Gorffennaf fe lwyddodd Murphy Oil i ddod i gytundeb gyda grŵp Klesch.

Straeon perthnasol