Dod o hyd i esgyrn mewn hen weithfeydd

Llanymynech Hill Image copyright CPAT
Image caption Mae'r ogof yn rhan o hen weithfeydd yn ardal Llanymynech ym Mhowys

Mae ogofäwyr wedi dod o hyd i ysgerbwd dynol mewn hen weithfeydd Rhufeinig ym Mhowys.

Dywed yr heddlu fod arbenigwyr yn ceisio dod o hyd i oed yr esgyrn cafodd eu darganfod mewn ogofau yn Llanymynech.

Roedd copr ac arian yn cael ei fwyngloddio yn yr ardal dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r darganfyddiad.

"Cafwyd hyd i'r esgyrn wrth i ogofäwyr ddefnyddio offer darganfod metel ar y safle.

"Mae arbenigwyr fforensig yn archwilio'r esgyrn, er mwyn i ni benderfynu arwyddocâd yr esgyrn, ac a ydyn nhw o werth archeolegol."

Roedd yna fwyngloddio yn yr ardal yn yr Oes Efydd, ac yna pan ddaeth y Rhufeiniaid i Lanymynech tua AD 70 - fe ailddechreuodd y gwaith cloddio.

Bu'r Rhufeiniaid yn defnyddio caethweision i wneud y gwaith cloddio, ac mae nifer o eitemau o'r oes Rufeinig wedi eu canfod yn yr ardal, gan gynnwys darnau o arian a safleoedd claddu.

Wedi i'r Rhufeiniaid adael bu'r gweithfeydd yn segur tan y ddeuddegfed ganrif.

Straeon perthnasol