Medal arbennig i nodi uwchgynhadledd Nato yng Nghymru

Medal Image copyright Royal Mint
Image caption Cafodd y fedal ei dylunio ar gyfrifiadur cyn cael ei greu yn y modd traddodiadol

Mae'r Bathdy Brenhinol wedi cynhyrchu medaliwn arbennig i nodi Uwchgynhadledd Nato yn dod i Gymru.

Bydd 150 o fedalau yn cael eu cynhyrchu er mwyn nodi'r achlysur, gyda 57 yn cael eu dosbarthu i ysgolion yng Nghasnewydd, gyda rhai yn cael eu cyflwyno i'r ysgolion gan wleidyddion amlwg y byd.

Mae'r gweddill gyfer y penaethiaid gwladol a'r arlywyddion fydd yn mynychu'r Uwchgynhadledd yng Nghasnewydd.

Mae'r medalau yn cael eu gwneud o efydd, a bydd darlun o Gymru yn cael ei roi ar un ochr.

'Braint'

Mae pob un yn 63mm ar draws, ac engrafydd y Bathdy, Jody Clark, sy'n gyfrifol am y dyluniad.

Image copyright other

Dywedodd Shane Bissett, cyfarwyddwr adran goffaol y Bathdy: "Mae'n fraint cael y cyfle i nodi Uwchgynhadledd Nato Cymru 2014 yn y ffordd yma, a rhoi rhywbeth i arweinwyr gwledydd y byd er mwyn cofio Cymru a'u taith yma."

Bydd un o weinidogion Swyddfa Cymru, Y Farwnes Jenny Randerson, ac aelodau o Gynghorau Dinas Casnewydd a Gwent yn bresennol mewn seremoni dydd Mercher er mwyn cyhoeddi'r darn coffaol.

Dywedodd y Farwnes Randerson: "Mae'n ffordd wych o nodi'r cyfarfod mwyaf o arweinyddion y byd y mae'r DU erioed wedi ei gynnal."

Bydd nifer o Gadetiaid y Môr o Gasnewydd hefyd yn bresennol yn y seremoni, ynghyd â Chadetiaid y Fyddin a'r Llu Awyr.