Darganfod corff dynes mewn tŷ yn Llandudno

Car heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod corff dynes, a gredir i fod yn ei 20au, wedi'i ddarganfod mewn tŷ yn Llandudno.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd: "Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Stryd Charlton, Llandudno am 9:40 bore 'ma, dydd Mawrth, 12 Awst, lle cafodd corff dynes ei ddarganfod.

"Ar hyn o bryd mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb ei hegluro ac mae ein hymchwiliadau yn parhau.

"Bydd post mortem yn cael ei gynnal 'fory."