Morgannwg yn curo Gwlad yr Haf yn y Cwpan Undydd

Rudolph Image copyright Getty Images

Roedd cant o rediadau gan Jacques Rudolph yn gymorth i Forgannwg wrth iddyn nhw guro Gwlad yr Haf yn y Cwpan Undydd yn Taunton.

Cafodd y gêm ei gyfyngu oherwydd glaw ond sgoriodd y gŵr o Dde Affrica 111 wrth i Forgannwg gyrraedd 289-6 mewn 47 pelawd.

Daeth rhan helaeth o rediadau'r ymwelwyr o bartneriaeth o 118 rhediad gan Rudolph a Murray Goodwin am y drydedd wiced.

Cafodd Rudolph ei ddal oddi ar fowlio Tim Groenewald (1 am 43), a llwyddodd Lewis Gregory i gymryd 4 am 48 rhediad.

Gyda tharged o 303 dan ddull Duckworth Lewis, fe wnaeth Peter Trego 45 o rediadau.

Ond roedd perfformiad gwych Michael Hogan, 3 am 19 rhediad, yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Cafodd Gwlad yr Haf eu bowlio allan am 207 mewn 40 pelawd, i roi buddugoliaeth o 95 rhediad i Forgannwg.