Bale yn serennu wrth i Real ennill y Super Cup

Gareth Bale Image copyright PA

Serennodd Gareth Bale wrth i Real Madrid ennill y Super Cup yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Sgoriodd Cristiano Ronaldo o bêl campus y Cymro yn yr hanner cyntaf, cyn dyblu'r fantais yn yr ail hanner.

Hwn oedd yr ail waith i Real ennill y gystadleuaeth, wedi iddyn nhw ennill yn 2002.

Yn dilyn y gêm, dywedodd Bale ei fod yn falch bod yn ol yn ei filltir sgwâr, ac yn freuddwyd cael ennill tlws yna.

'Breuddwyd'

Daeth gôl gyntaf Real wrth i Bale groesi o'r asgell chwith i Ronaldo rwydo o'r cwrt cosbi.

Ronaldo sgoriodd yr ail hefyd, gan saethu heibio Beto yn y gôl i Sevilla o ochr chwith y cwrt.

Image copyright PA
Image copyright Getty Images

Er perfformiad gwych Ronaldo, dim ond un dyn oedd yn hawlio sylw y rhan fwyaf y dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ar ôl y gêm, dywedodd Gareth Bale ei fod wedi gwireddu breuddwyd.

"Rydyn ni wedi gorffen y job a chael y tlws," meddai.

"Fe wnaethon ni chwarae yn dda, bydd yn cymryd ychydig o amser i ni setlo ond mae gyda ni ddigon o amser i wella.

"Roedd yn wych cael bod yn ôl adref, ac mae'n freuddwyd cael ennill tlws yma.

"Mae pawb yn dod i Real Madrid i ennill tlysau. Rydyn ni eisiau chwarae i'r tîm gorau yn y byd ac rydyn ni eisiau parhau i ennill."

Straeon perthnasol