107 o lefydd ychwanegol yn ysgolion Cymraeg Caerdydd

protest TAG
Image caption Fe wnaeth dros 100 o bobl ddangos eu cefnogaeth i ymgyrch TAG ym mis Medi 2013

Bydd dros 100 o lefydd ychwanegol yn cael eu creu mewn ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd erbyn 2017.

Ar ôl bod yn hynod feirniadol yn gynharach eleni o gynlluniau'r cyngor, mae'r mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg bellach wedi eu plesio.

Roedd RhAG yn siomedig iawn gyda drafft cyntaf Cyngor Caerdydd o gynllun strategol Addysg Gymraeg.

Mae pob sir yng Nghymru yn gorfod paratoi cynllun fel hyn i ddangos sur maen nhw'n ateb y galw am addysg Gymraeg ac yna mae'r cynlluniau yn cael eu gyrru at y Gweinidog Addysg er mwyn cael eu cymeradwyo.

Yn achos Caerdydd roedd y drafft cyntaf yn cynnig 47 o lefydd dros y tai r blynedd nesa', sef dau le ychwanegol mewn un ysgol, 15 lle ychwanegol mewn ysgol arall, a 30 o lefydd mewn ysgol newydd yn ardal Grangetown.

Angen gwella'r cynnig cyntaf

Image caption Mae mudiad TAG wedi bod yn ymgyrchu'n galed dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd

Doedd rhieni'r ardal ddim yn hapus â'r cynnig, ac yn ôl Michael Jones, aelod o'r fforwm addysg Gymraeg, roedd Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Caerdydd yn cydnabod fod angen gwella'r cynnig yn syth.

Yn y cynllun newydd, bydd 107 o lefydd ychwanegol, gyda'r posibilrwydd o 15 lle ar ben hynny petai plant yn stopio teithio dros y ffin o Rondda Cynon Taf i Waelod y Garth.

Bydd 30 o lefydd newydd ar gyfer ardaloedd Sblot ac Adamstown, a 60 o lefydd mewn ysgol newydd yn Grangetown ar gyfer Medi 2016.

"Mae hyn yn addewid statudol gan Gyngor Caerdydd" meddai Mr Jones.

"All y cyngor ddim mynd yn ôl ar hyn, mae'n rhaid iddyn nhw nawr fwrw'r cynlluniau yma [ar gyfer ysgol newydd] unai yn Nhre-Biwt neu yn Grangetown."

Adeilad yn achosi problem?

Mae trafodaethau anffurfiol wedi dechrau'n barod ynglŷn â safleoedd posib ar gyfer yr ysgol newydd.

Safle Canolfan hamdden Channel View yw'r dewis amlycaf, ond mae rhai pobl leol yn poeni y byddan nhw'n colli eu cyfleusterau hamdden.

"Mae'r lleoliad ar gyfer yr ysgol newydd yn ansicr, mae'r cyfarwyddwr addysg wedi dweud nad yw'r safle ger Neuadd y Sir yn addas, felly 'dwi'n rhagweld mai datblygu Channel View fydd yr opsiwn," ychwanegodd Mr Jones.

Mae Huw Williams o fudiad TAG wedi bod yn ymgyrchu dros addysg Gymraeg yn y brifddinas ers cyhoeddi'r cynllun cyntaf.

"Yn amlwg mae rhywun eisiau gweld ysgol Gymraeg newydd yn yr ardal mor fuan â phosib," meddai wrth Newyddion 9.

"Ond mae angen bod yn realistig hefyd.

"Mae'n amlwg fod y Cyngor yn gwneud eu gorau i geisio gwthio hyn ymlaen."

Yn ôl RhAG, Mae cynnydd o 6% y flwyddyn wedi bod rhwng y flwyddyn 2000 a 2012 am addysg Gymraeg yn ardal Caerdydd ac felly maen nnhw'n hapus fod y cynllun yma gan y cyngor bellach yn ceisio ateb y gofyn yn y brifddinas.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.