Dyn yn disgyn yn ne Eryri

Rhaeadr Dolgoch Image copyright Peter Trimming

Mae cerddwr 68 oed o Peterborough wedi cael anafiadau i'w ben a'i goes ar ôl iddo lithro a disgyn 40 troedfedd yn ne Eryri.

Disgynnodd y dyn wrth Raeadr Dolgoch, ger Abergynolwyn, wrth gerdded gyda'i deulu ddydd Mawrth.

Derbyniodd y dyn driniaeth gan barafeddygon cyn i 13 aelod o Dîm Achub Aberdyfi ei gludo lawr llwybr creigiog ar elorwely.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor mewn ambiwlans awyr.