Diweithdra'n parhau i ostwng yng Nghymru

Canolfan Byd Gwaith

Mae'r nifer o bobl ddi-waith yng Nghymru'n parhau i ostwng, yn ôl y ffigyrau diweddaraf ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a Mehefin 2014.

Mae 3,000 yn llai o bobl yn ddi-waith nawr, nag yn ystod y tri mis blaenorol.

Mae 25,000 yn llai o bobl yn ddi-waith na'r un cyfnod y llynedd.

Erbyn hyn mae'r gyfradd ddiweithdra yn 6.7% yng Nghymru, sy'n uwch na'r gyfradd ar draws y DU, sef 6.4%.

Mae'r ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod y lefelau cyflog cyfartalog 0.2% yn is na'r llynedd, a hynny'n rhannol oherwydd y taliadau bonws uwch a dalwyd ym mis Ebrill 2013.

Yn ogystal mae'r ffigyrau'n dangos bod nifer y bobl sy'n hawlio lwfans ceisio gwaith yng Nghymru hefyd wedi disgyn 1,400, a hwnnw yw'r 17eg cwymp misol yn olynnol yng Nghymru.

Ond mae Ffederasiwn y Busnesau Bychain wedi honni bod 12,000 llai o bobl mewn gwaith yng Nghymru erbyn hyn, nag yn ystod y tri mis blaenorol.

Ymateb y gwleidyddion

Mae'r ymateb gwleidyddol i'r ffigyrau wedi bod yn bositif gyda'r Farwnes Randerson, Is-Ysgrifennydd Gwladol Swyddfa Cymru yn dweud: "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn arwydd arall bod cynllun economaidd hir dymor Llywodraeth y DU yn gweithio, gan leihau dibyniaeth tymor hir ar y wladwriaeth les a chreu'r amodau cywir ar gyfer twf a ffyniant.

"Rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud ac na allwn ni fod yn hunanfodlon, ond drwy gadw at ein cynllun economaidd gallwn greu dyfodol mwy disglair ar gyfer busnesau a theuluoedd yng Nghymru."

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Mae'r cwymp mewn diweithdra yng Nghymru yn arwydd bod ein strategau yn gweithio, gan greu cyfleoedd a diogelu swyddi i bobl Cymru.

"Mae diweithdra ymysg pobl ifanc yn disgyn yn gynt yng Nghymru nag yn weddill y DU, ac mae cyfradd gweithlu Cymru sy'n hawlio budd-daliadau wedi disgyn ym mhob rhan o Gymru i'w isaf ers 2008."

'Cwymp parhaus am 20 mis'

Yn ôl Eluned Parrott, Gweinidog Cysgodol yr Economi y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae nifer y di-waith yng Nghymru bellach yn 97,000, y tro cyntaf i'r ffigwr ddisgyn o dan 100,000 ers 2008.

"Rydym ni wedi gweld y ffigyrau diweithdra yn cwympo'n barhaus am 20 mis, ac mae nifer o arwyddion eraill yn dangos bod yr economi'n mynd i'r cyfeiriad cywir."

Dywedodd William Graham AC, Gweinidog Cysgodol Busnes y Ceidwadwyr: "Mae'r ffigyrau yma'n gadarnhaol iawn gan ddangos bod cynllun economaidd hir dymor y Ceidwadwyr i ddatblygu economi Prydain yn llwyddo ar draws y wlad."

Ymateb byd busnes

Ond mae'r ymateb o'r byd busnes wedi bod yn gymysg, gyda llefarydd Ffederasiwn y Busnesau Bychain, Rhodri Evans yn dweud: "Efallai bod y gyfradd diweithdra wedi disgyn, ond mae 12,000 llai o bobl yn gweithio yng Nghymru yn y tri mis yn gorffen ym Mehefin, nag yn y tri mis blaenorol.

"Rydym yn pryderu am y lefelau cynyddol o bobl economaidd anactif ymysg pobl o oedran gwaith yng Nghymru. Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod mwy na chwarter pobl o oedran gwaith yng Nghymru yn economaidd anactif.

"Os ydi Cymru am ffynnu mae angen creu swyddi, ond mae'r ffigyrau yma'n dangos bod llai o bobl yn gweithio yng Nghymru nag yn ystod yr un cyfnod y llynedd."

Mae undebau llafur hefyd wedi bod yn feirniadol gyda Swyddog Cenedlaethol TUC Cymru, Julie Cook yn dweud: "Mae hi'n bryder bod nifer y bobl mewn gwaith yng Nghymru wedi disgyn tra bod llawer o swyddi newydd yn parhau i gynnig cyflogau isel a chyfleoedd datblygu gyrfa gwael.

"Wrth gwrs mae unrhyw gwymp yn y gyfradd diweithdra i'w groesawu ond os nad ydi safon y swyddi sy'n cael eu creu yn gwella bydd yr argyfwng yn safonau byw pobl ym Mhrydain yn parhau."

Straeon perthnasol