'Carfan gref' merched Cymru i wynebu Lloegr

Jill Scott o Loegr yn taclo Hayley Ladd o Gymru Image copyright PA
Image caption Collodd Gymru 2-0 yn erbyn Lloegr yn Millwall fis Hydref 2013

Dywedodd rheolwr Cymru, Jarmo Matikainen, ei fod wedi cyhoeddi "ei garfan gryfa' bosib" ar gyfer gêm Merched Cymru yn erbyn Lloegr yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd i Ferched.

Jess Fishlock, sydd newydd arwyddo gyda Frankfurt, fydd yn arwain y garfan o 20.

Mae 'na gyfanswm o 600 cap yn y garfan a fydd yn wynebu Lloegr yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 21 Awst.

Doedd Fishlock ddim chwarae yn y gêm gyfeillgar 1-1 yn erbyn Yr Alban yr wythnos diwethaf.

"Dyma'r tîm gorau allwn ni ei enwi," meddai Matikainen.

Mae Lloegr, sy'n cael eu rheoli gan y Cymro Mark Sampson, ar hyn o bryd bum pwynt yn glir o Gymru sydd yn ail yn Grŵp Chwech.

Byddai buddugoliaeth yng Nghaerdydd yn sicrhau lle Lloegr yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2015 a fydd yn cael eu cynnal yng Nghanada.

Gêm olaf Cymru fydd oddi cartref yn Wcráin fis Medi.

Y pedwar tîm gorau sydd ddim yn ennill eu grŵp fydd yn mynd ymlaen i'r gemau ail gyfle ar gyfer yr wythfed lle yng Nghanada.

Carfan Cymru: Sophie Dando (Merched Caerdydd), Nicola Davies (Reading), Rhian Cleverley (heb dîm), Nicola Cousins (Yeovil), Kylie Davies (Millwall), Loren Dykes (Academi Bryste), Carys Hawkins (Fylkir), Sophie Ingle (Academi Bryste), Helen Bleazard (Yeovil), Georgia Evans (Academi Bryste), Jessica Fishlock (Seattle Reign / Frankfurt) (capten), Josie Green (Watford), Michelle Green (Merched Caerdydd), Angharad James (Academi Bryste), Sam Quayle (Academi Bryste), Sarah Wiltshire (Watford), Natasha Harding (Academi Bryste), Hannah Keryakoplis (Birmingham), Megan Wynne (Watford), Nadia Lawrence (IBV Vestmannaeyjar)

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.