Coventry 1-2 Caerdydd

Guido Burgstaller yn dathlu gydag Aaron Gunnarsson a Nicky Maynard Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Guido Burgstaller yn dathlu gydag Aaron Gunnarsson a Nicky Maynard

Mae Caerdydd wedi cyrraedd ail gymal Cwpan Capital One ar ôl curo Coventry yn Stadiwm Sixfields.

Fe wnaeth Guido Burgstaller roi tîm y brif ddinas ar y blaen ar ôl dim ond pedwar munud, ei ergyd isel yn canfod cefn y rhwyd.

Roedd y fuddugoliaeth yn edrych yn fwy cyffyrddus ar ôl 80 munud ar ôl i'r amddiffynnwr Ryan Haynes roi'r bel i'w rwyd ei hun yn dilyn croesiad Mats Moller Daehli.

Ond fe darodd Coventry yn ôl drwy Shaun Miller, gan achosi ychydig o gnoi ewinedd i'r ymwelwyr yn ystod y munudau olaf.

Coventry: Burge, Finch, Webster, Willis, Fleck, O'Brien, Pugh (Haynes - 51' ), Daniels (Miller - 62' ), Clarke, Swanson, McQuoid (Maddison - 69' ).

Caerdydd: Moore, John, Barnum-Bobb (Harris - 66' ), Connolly, Théophile-Catherine, Wolff Eikrem, Gunnarsson, Kim Bo-kyung (O'Sullivan - 84' ), Burgstaller (Daehli - 66' ), Ralls, Maynard