Adolygiad Catrin Beard o'r wasg a'r blogiau Cymraeg

Safle Eisteddfod 2014 Image copyright Aled Llywelyn

Wythnos ar ôl y Brifwyl, does dim syndod fod Eisteddfod Sir Gâr yn Llanelli yn derbyn sylw eang yn y wasg a'r blogiau.

Aeth Glyn Adda ddim yno, ond mae ganddo nifer o gwestiynau ar ei flog: Oedd hi'n wahanol eleni? Oedd hi'n fodern? Oedd hi'n ddeinamig? A oedd yno gystadlaethau apelgar, cyfoes a blaengar?

Hynny yw, oedd dylanwad y Dwsin Doeth, sef y panel a benodwyd i edrych ar ddyfodol yr ŵyl, i'w weld ar bob llaw?

Mewn cyfweliad yn Golwg, mae Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, i'w weld yn ddigon hapus beth bynnag.

Mae 'na lot o bethau canmoliaethus wedi digwydd, meddai, gyda'r hanner can mil o arian ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu gwedd y Maes wedi talu ar ei ganfed.

'Chwa o awyr iach'

Yn ôl Cris Dafis yn Golwg, chwa o awyr iach oedd yr Eisteddfod hon.

Am y tro cyntaf ers nifer fawr iawn o flynyddoedd, fe drodd ei fyd bron yn gyfan gwbl Gymraeg ei iaith am wythnos gyfan, ac i Cris, bywiogrwydd ac awyrgylch y maes oedd gorchest fawr yr Eisteddfod hapus hon.

Mae hefyd yn eithaf siŵr fod natur hynod yr ardal wedi gadael ei hôl yn gryf ar y maes.

Mae 'na rywbeth diymhongar iawn a ffeind iawn am Gymreictod ardal Llanelli meddai - dim ffuantrwydd nag elfen 'ylwch-arna-i' amdano. Does dim byd crachaidd am y Gymraeg yn Llanelli; ac ie, un o'r ardal yw Cris ei hun yn wreiddiol.

Mae'n amlwg fod perthynas pobl â'r Eisteddfod yn newid dros amser. I Rhodri ap Dyfrig, sy'n sgwennu ar wefan Ffrwti, roedd y maes carafannau yn arfer bod yn symbol o ryw fath o eisteddfodwyr nad oedd fyth eisiau bod.

Er ein bod ni'n dod i'r steddfod yn selog bob blwyddyn ers i mi gael fy ngeni, meddai, hyd yn oed yn fis oed mewn pabell, arhosais i erioed ar y Maes Carafannau.

Ond eleni, cafodd Rhodri ei hun mewn carafán, ar yr union faes hwnnw - yn mwynhau ei hun.

Na, allai ddim osgoi'r ffaith rhagor, meddai. Dwi wedi ildio. Wyf garafaniwr. Ac rwyf am ei fwynhau.

'Ymhlith y goreuon'

A mwynhau wnaeth Miriam Elin Jones hefyd, gan gloriannu'r ŵyl ar dudalennau Golwg.

Mae'n dal yn anodd credu pa mor amrywiol oedd y digwyddiadau ar y maes, meddai.

Mae'n bur debyg y bydd profiad rhywun arall o'r Eisteddfod yn wahanol iawn i fy mhrofiad i.

Ac er gwaetha'r bysys wennol anwadal, y bwyd drud a'r toiledau amhleserus, mae'n gobeithio nad hi yw'r unig un sy'n meddwl fod yr Eisteddfod eleni ymhlith y goreuon.

'Amgueddfa Eisteddfodol?'

Er gwaetha'r holl sôn am 'waddol' Eisteddfodol bob blwyddyn, yr hyn sy'n poeni Ifan Morgan Jones yn ei flog yw bod ein prifwyl yn parhau traddodiad y Cymry o symud ymlaen drwy hanes heb adael blewyn o dystiolaeth ar ein hol.

O fewn tri mis i ddiwedd yr Eisteddfod yn Llanelli, dim ond ambell i lain felen o wair fydd yn weddill.

Mae hyd yn oed y Meini Hirion a arferai cael eu gadael ar ôl yn rhai plastig y mae modd eu llwytho ar gefn tryc, erbyn hyn. Caiff popeth arall ei wasgaru i'r pedwar gwynt, i bwy a ŵyr ble.

Hoffai Ifan weld Amgueddfa Eisteddfodol yn cael ei sefydlu rhywle yng Nghymru.

Fe allai addysgu pobl am hanes yr Eisteddfod, a chynnwys creiriau hanesyddol o'r ŵyl a fyddai fel arall yn cael eu hesgeuluso a'u colli.

Gobaith Ifan yw na fydd haneswyr y dyfodol yn wynebu'r un rhwystredigaeth ag y mae ein haneswyr heddiw wrth bori dros jig-so tameidiog ein treftadaeth - wedi i'n lluniau Instagram a negeseuon Twitter ysmala ddiflannu y tu hwnt i gof.

Mae adolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg yn cael ei ddarlledu ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ychydig cyn saith o'r gloch pob bore Gwener.