Van Gaal yn poeni dim ar Ashley Williams

Ashley Williams Image copyright Getty Images

Mae capten Abertawe, Ashley Williams, wedi dweud nad ydi o'n poeni dim mai Louis van Gaal yw hyfforddwr newydd Manchester United, a hynny cyn y gêm yn Old Trafford ddydd Sadwrn.

Bydd Van Gaal, cyn rheolwr Barcelona a Bayern Munich, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn yr uwchgynghrair, a hynny wedi iddo arwain tîm yr Iseldiroedd i'r drydydd safle yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd ym Mrasil.

Er y bydd cryn sylw'n cael ei roi i Van Gaal cyn y gêm, mae capten Cymru, Ashley Williams, yn mynnu ei fod wedi bod yn canolbwyntio ar system newydd Abertawe dan Garry Monk.

Hwn fydd tymor llawn cyntaf Monk yn arwain yr Elyrch.

'Canolbwyntio ar ein hunain'

Dywedodd Williams: "Byddai wedi bod yn amhosibl cael gêm fwy fel ein gêm gyntaf, ond mi fydd y sylw arnyn nhw oherwydd bod ganddyn nhw reolwr newydd.

"Ond fyddan ni ddim yn poeni amdanyn nhw. Rydan ni wedi bod yn gweithio ar ein newydd system, sut rydan ni eisiau chwarae.

"Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar hynny a mynd mewn i'r gêm yn bositif.

"Rydan ni'n canolbwyntio ar ein hunain a beth rydan ni'n wneud, dim ots pwy ydi'r gwrthwynebwyr.

"A bod yn berffaith onest, bydd pawb yn gwylio i weld beth mae Manchester United yn ei wneud.

"Yr unig bobl fydd yn poeni am Abertawe, fydd cefnogwyr Abertawe."

'Cyfnod paratoadol positif'

Llynedd, Abertawe oedd gwrthwynebwyr cyntaf David Moyes fel rheolwr Manchester United, ac er i dîm Moyes ennill y gêm 4-1, gorffennodd y tîm yn seithfed yn yr uwchgynghrair, ei safle gwaethaf yn hanes y gynghrair.

Mae Williams yn credu bod Abertawe yn wynebu her wahanol gyda'r rheolwr profiadol, Van Gaal, yn arwain Manchester United.

"Tydw i ddim yn meddwl y gallwn ni farnu y tîm presennol ar y tîm Manchester United rydym ni wedi chwarae yn ei erbyn y tymor diwethaf oherwydd bydd hwn yn dîm gwahanol gyda rheolwr newydd.

"Rydym yn barod. Rydym wedi cael cyfnod paratoadol positif - mae wedi bod yn dda iawn.

"Roeddwn i eisiau cael cyfnod paratoadol da, ac mae'n siwr mai hwn ydi'r gorau rydw i wedi'i gael, ac rydw i'n gwybod bod ganddom ni sgwad gref.

"Rydym ni wedi gweld llawer o chwaraewyr yn mynd a dod, ond rydw i'n teimlo hyder yn y chwaraewyr sydd gen i o fy nghwmpas."

Chwaraewyr newydd

Bydd cyn-golwr Arsenal, Lukazs Fabianski, yn chwarae ei gêm gyntaf i'r Elyrch ddydd Sadwrn a bydd y chwaraewr canol cae o Wlad yr Iâ, Gylfi Sigurdsson, hefyd yn cychwyn ar ei ail gyfnod gyda'r clwb, wedi iddo adael Tottenham.

Efallai bydd yr asgellwr o Ecwador, Jefferson Montero, yn chwarae ei gêm gyntaf i'r clwb, ond mae'r ddau asgellwr, Nathan Dyer a Wayne Routledge, ar gael ar gyfer y gêm wedi iddyn nhw fethu'r gêm gyfeillgar yn erbyn Villareal.

Straeon perthnasol