Caerdydd yn arwyddo Sean Morrison

Sean Morrison yn chwarae i Reading Image copyright Getty Images
Image caption Mae Sean Morrison wedi chwarae 38 o weithiau i Reading yn y gynghrair

Mae Caerdydd wedi arwyddo'r amddiffynnwr Sean Morrison o Reading.

Fe wnaeth yr amddiffynnwr gwblhau prawf meddygol ddydd Iau.

Dyw manylion y ffi heb gael eu datgelu.

Roedd Morrison wedi dweud wrth reolwr Reading, Nigel Adkins, ei fod eisiau cynnal trafodaethau gyda Chaerdydd a hynny er gwaetha'r ffaith eu bod wedi cytuno i ymestyn ei gytundeb gyda'r clwb yn Rhagfyr 2013.

Mae'r chwaraewr 23 oed wedi ymddangos ddwywaith i Reading y tymor hwn.

Daw Morrison i glwb y brifddinas yn sgil ymadawiad Steven Caulker i QPR ac anaf i'r amddiffynnwr Ben Turner.

Straeon perthnasol