Cofeb Cymry'r Rhyfel

cofeb fflandrys
Image caption Fe ddadorchuddiwyd y Ddraig Goch gan y Prif Weinidog Carwyn Jones

Can mlynedd ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf mae cofeb wedi ei dadorchuddio yn Fflandrys, Gwlad Belg, i gofio'r Cymry a fu farw yn y Rhyfel Mawr.

Bydd y gromlech yn gofeb barhaol i'r tua deugain mil o Gymry a fu farw yn y rhyfel.

Roedd y Prif Weinidog Carwyn Jones, a dros fil o westeion, yno ar gyfer y seremoni ger maes y gad Passchendaele.

Image caption Y seremoni dadorchuddio

Wrth arwain y seremoni dywedodd y Prif Weinidog "Mae'n anodd credu, yn y lle heddychlon yma, yr erchyllterau rhyfel a wynebwyd mor ddewr."

"Heddiw, rydym yn anrhydeddu pob un ohonynt, eu dewrder a'u haberth."

Image caption Fe adeiladwyd y gromlech o greigiau ddaeth o Bontypridd
Image caption Dywedodd Carwyn Jones fod y gwasanaeth wedi cael argraff fawr arno.

Ymhlith y rhai a fu farw yno roedd Hedd Wyn, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 1917 ar ôl ei farwolaeth.

Image caption Aled yn ymweld â bedd Benjamin Williams o Landudoch.

Aled Scourfield, Gohebydd BBC Cymru, yn olrhain hanes un sy'n cael ei gofio yn Fflandrys

Fel newyddiadurwr, ambell waith, mae yna stori sydd yn gwneud i chi feddwl ac ystyried.

A minnau yn bwriadu teithio i Fflandrys i ohebu ar ddadorchuddio'r gofeb genedlaethol, roeddwn i yn awyddus i holi rhywun oedd wedi colli perthynas yn yr ymladd ffyrnig a fuodd yma yn Fflandrys.

Fe gysylltais â David Griffiths o Aberteifi, sydd wedi gwneud gwaith ymchwil trylwyr ar y bechgyn sydd wedi eu henwi ar gofeb y dref honno.

Fe awgrymodd fy mod i yn siarad â Cecil Williams.

Fe gafodd tri o frodyr ei dad o Landudoch eu lladd mewn gwahanol rannau o'r byd yn ystod y Rhyfel Mawr.

Cafodd David ei ladd ym mis Ionawr 1917 yn yr ymladd yn y Dwyrain Canol - yn y wlad sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Irac.

Yna, cafodd Benjamin ei ladd ar drothwy trydedd brwydr Ieper.

Uniaethu

Roedd ymweld â'i fedd ym mynwent Bard Cottage yn Ieper yn brofiad na fydda i fyth yn ei anghofio. Mae darllen y teyrngedau Cymraeg ar gerrig beddi mewn lle mor estron yn gwneud i chi ddeall ac uniaethu â'r golled.

Cafodd y trydydd brawd, Johnny, ei ladd ar y môr pan suddodd ei long - yr SS Baykerran - ar y ffordd o Efrog Newydd i Ffrainc ym 1918.

Roedd eu mam, Margaret Griffiths, yn gorfod ymdopi felly â cholli tri mab mewn cyfnod o flwyddyn a hanner.

Fe fuodd ei gwr hi, Benjamin, farw yn yr un cyfnod o glefyd y galon.

Mae hi'n anodd deall a dirnad maint y golled.

'Pwysig cofio'

Mae Cecil Williams o Aberteifi yn llwyr gefnogol i'r gofeb newydd yma yn Hagebos, Fflandrys.

"Mae hi'n bwysig cofio beth wnaeth y Cymry," yn ôl Cecil.

Mewn mynwentydd, bron ar bob stryd ger Ieper, mae yna atgof o'r brwydro erchyll a fuodd yma.

I'r milwyr hynny na chafodd yr hawl hyd yn oed i gael eu claddu, mi fydd yna gofeb barhaol yma o hyn ymlaen.