Dredge ar y blaen yn Nenmarc

Bradley Dredge Image copyright Getty Images

Mae'r Cymro Bradley Dredge yn cael cystadleuaeth wrth ei fodd ar gylchdaith Ewrop yn Nenmarc.

Ar ôl dwy rownd o Bencampwriaeth Made in Denmark, mae ganddo fantais o bedair ergyd dros weddill y cystadleuwyr.

Ar y diwrnod cyntaf ddydd Iau, fe gafodd Dredge rownd o 66, ac fe ddilynodd hynny gyda rownd o 68 ddydd Gwener i'w adael wyth ergyd yn well na'r safon.

Yr agosaf ato yw Simon Wakefield o Loegr ar bedair ergyd yn well na'r safon.

Bydd Cymro arall yn aros ar gyfer diwedd y gystadleuaeth wrth i Stuart Manley orffen yr ail ddiwrnod ddwy yn well na'r safon, ond mynd adre fydd Philip Price gan orffen chwe ergyd dros y safon ddydd Gwener.